Skip to main content

Busnes a Gweinyddu Lefel 2 - Tystysgrif

Amser-llawn
Lefel 2
BTEC Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnwys dau gymhwyster - BTEC Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes a BTEC Tystysgrif Lefel 2 mewn Busnes. 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae byd busnes yn datblygu, yn gweithredu ac yn ymateb i newid. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ofynnol i fyfyrwyr ar gyfer byd gwaith a hanfodion ar gyfer dechrau eu busnes eu hunain. 

Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag astudio pum pwnc TGAU.  

Amcanion y Cwrs: 

  • Deall gwasanaethau gweinyddu  
  • Cymryd rhan mewn profiad gwaith gweinyddu busnes   
  • Defnyddio technoleg busnes i brosesu a chyfleu gwybodaeth 
  • Cynllunio, trefnu a chefnogi digwyddiadau busnes 
  • Datblygu cynllun busnes sy’n ariannol ddichonadwy ar gyfer gwefan ac ymgyrch hyrwyddo 
  • Adnabod strategaethau btrandio a ddefnyddir mewn busnes.  

Canlyniadau’r Cwrs: 

  • Egluro pa mor bwysig yw tasgau cymorth gweinyddol, gan gynnwys sut i baratoi a dosbarthu dogfennau busnes a sut i reoli systemau dyddiadur a systemau ariannu 
  • Ennill y rhinweddau i weithio mewn sector gweinyddu busnes 
  • Adnabod a defnyddio rhaglenni meddalwedd busnes 
  • Cynllunio, costio a chymryd rhan mewn digwyddiad busnes 
  • Cyfrifo costau sy’n ymwneud â rhedeg eich busnes eich hun, gan ddefnyddio cyfriflenni 
  • Defnyddio strategaethau marchnata digidol i gynyddu gwerth brandiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Pedair radd D ar lefel TGAU.
 

Asesu: 

  • Arholiadau ysgrifenedig 
  • Aseiniadau rhaglennu 

Meini Prawf Graddio: 
 

  • Asesiad mewnol (70%) 
  • Asesiad allanol (30%) 

Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), a Phasio (P). Defnyddir graddfa PP i D*D* ar gyfer cymwysterau. 

Cyflogaeth: Bydd y cwrs yn gwella rhagolygon y myfyrwyr o gael mynediad i Brentisiaeth Fodern neu NVQ Seiliedig ar Waith ym myd busnes.  
 
Swyddi yn y diwydiant hwn: Swyddog gweinyddol, clerc gweinyddol, derbynnydd a swyddog gweinyddol cymorth busnes.  

Aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: Bydd gradd Teilyngdod ar y cwrs hwn, a phresenoldeb da a gradd C mewn Saesneg, yn rhoi modd i fyfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BTEC Diploma Lefel 3 mewn Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain.