Busnes Lefel 3 gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig – Diploma 
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am astudio Gwasanaethau Ariannol, Marchnata a Rheolaeth Busnes.
BTEC Diploma (Cenedlaethol) Lefel 3 mewn Busnes
Bydd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys Marchnata, Adnoddau Dynol, Rheolaeth, a TG gyda phwyslais ar Gyllid (mae rhai unedau’n cynnwys arholiadau).
Mae unedau astudio’n cynnwys:
- Archwilio Busnes
- Datblygu Ymgyrch Marchnata (Allanol)
- Cyllid Personol a Busnes (Allanol)
- Rheoli Digwyddiad
- Busnes Rhyngwladol
- Egwyddorion Rheolaeth (Allanol)
- Hyrwyddo Busnes Newydd / Marchnata Digidol
- Proses Recriwtio a Dethol.
Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) Lefel 3 – Tystysgrif Sylfaen
Mae’r cwrs Tystysgrif Sylfaen CIM Lefel 3 yn cyflwyno cysyniadau a therminoleg hanfodol marchnata, gan ddarparu man cychwyn cryf i unrhyw un sy’n cychwyn ar eu taith marchnata.
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dwy uned a asesir ac mae’n rhoi dealltwriaeth glir i chi o:
- Rôl a swyddogaeth marchnata o fewn sefydliadau
- Y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr
- Elfennau allweddol yr amgylchedd marchnata
- Strategaethau craidd o fewn marchnata digidol.
Perffaith i farchnatwyr newydd neu ddarpar farchnatwyr, mae’r cymhwyster hwn yn cynyddu’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen mewn marchnata ac mae’n gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Unedau astudio’n cynnwys:
- Hanfodion marchnata
- Cynnwys a sianeli.
Asesiad: Arholiad dewis lluosog.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
- Neu broffil Teilyngdod BTEC Diploma lefel 2 mewn Busnes a TGAU Saesneg.
Mae cyfweliad yn ofynnol.
Prifysgol neu gyflogaeth.
Bydd holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn ymweliad Rhyngwladol/yn y DU a ariennir gan y myfyriwr.
Ffi cofrestru’r myfyriwr: £40.