Skip to main content

Y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
UAL
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae Diploma Estynedig UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain) Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yn gwrs dwy flynedd sy’n gyfwerth â thair Safon Uwch yn system pwyntiau UCAS.  

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o feysydd astudio ar draws disgyblaethau dawns, actio a chanu gan gynnwys ystod o sgiliau megis: 

  • Techneg actio 
  • Perfformiad wedi’i sgriptio  
  • Perfformiad theatr gerdd  
  • Theatr i blant 
  • Theatr glasurol  
  • Techneg canu  
  • Canu ensemble  
  • Symudiad cyfoes 
  • Jazz 
  • Bale. 

Er bod pwyslais ar waith ymarferol a pherfformio, bydd rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig a datblygu’ch sgiliau fel ymarferydd gwybodus a myfyriol trwy lyfrau log gwerthusol a dyddiaduron ymarfer. Byddwch yn dysgu sut i werthuso a gwneud sylwadau beirniadol ar ymarfer proffesiynol ac ymchwil yn ogystal â’ch taith greadigol eich hun. 

Asesir eich dysgu trwy brosiectau. Byddwch yn cwblhau’r rhain yn dymhorol – bydd y prosiectau yn amrywio a a gallech gael eich asesu trwy senario cynhyrchu go iawn, dyddiaduron, cyflwyniadau, traethodau a a pherfformiadau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Pum gradd C ac uwch ar lefel TGAU (gradd Teilyngdod UAL Diploma Lefel 2) 
  • Gan gynnwys gradd C mewn TGAU Saesneg Iaith 
  • Diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformio  
  • Yn ddelfrydol, profiad o berfformio. 

Mae’r cwrs Y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yn cael ei addysgu ym Mloc y Celfyddydau, Campws Gorseinon. Mae’n gwrs amser llawn sy’n canolbwyntio ar wersi a addysgir a gwaith prosiect. Fel rhan o amserlen Lefel 3, byddwch chi hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru Lefel 3. 

Mae ein myfyrwyr wedi symud ymlaen i amrywiaeth o brifysgolion nodedig a cholegau arbenigol. Mae cynigion yn cynnwys lleoedd yn Mountview, Arts Ed, RADA, Laine Theatre Arts, East 15, LIPA, RWCMD, Bird College, Urdang, GSA, Academi Emil Dale a Chanolfan Stiwdio Llundain. 

Mae cynigion prifysgol yn cynnwys: Prifysgol Chichester, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Caerdydd, Ysgol Actio Arden – Prifysgol Manceinion, Prifysgol Cymbria, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Coleg Blackpool a Fylde, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Dinas Birmingham, Prifysgol Portsmouth, Prifysgol y Santes Fair Twickenham a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

 Yn ogystal, mae myfyrwyr hefyd wedi cael lle ar ein cwrs Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio gan ddilyn llwybr actio neu theatr gerdd.  

Costau’r Cwrs:

Oherwydd natur y cwrs mae ffi stiwdio o £150 fesul blwyddyn astudio. Mae costau’r cwrs yn rhoi modd i ni drefnu gwibdeithiau i’r theatr, rhoi cyfleoedd gweithdy a gwahodd siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant.   

Ymweliadau Theatr:

Yn ystod y flwyddyn cewch gyfleoedd i fynd i gynyrchiadau lleol a pherfformiadau nodedig yn Stratford a Llundain. Mae’r gwibdeithiau a drefnir yn dibynnu ar berfformiadau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn.  

Gweithdai:

Bydd gweithdai penodol yn cael eu trefnu sy’n gysylltiedig â’r cwrs Lefel 3 a byddant yn amrywio yn dibynnu ar ffocws y tymor. 

Academi:

Bob prynhawn Mercher, caiff myfyrwyr gyfleoedd ychwanegol i weithio gydag amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol. Mae sesiynau blaenorol wedi cynnwys: Actio ar gyfer Teledu a Ffilm, Llais ar gyfer Radio, Cynrychiolydd Dawns Theatr Gerdd, Hyfforddi Un i Un ar gyfer Clyweliadau a phrosiect perfformio dwyieithog. 

Explore in VR