Skip to main content
A Level results day

Trefniadau ar gyfer canlyniadau 2020

Diweddariad 19 Awst 2020

Bydd myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau eu harholiadau yn yr adran manylion arholiad ar eu e-CDU. Neu, gallwch fewngofnodi i’r ap engage ar ôl 8.30am ar ddiwrnod y canlyniadau.

Os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi, ewch i’r dudalen hon ar y wefan 

Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 20 Awst ar ôl 8.30am

Bydd myfyrwyr galwedigaethol yn cael eu hysbysu pan fydd eu canlyniadau ar gael i’w gweld

Yn dilyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, mae’ch gradd TGAU eisoes wedi cael ei haddasu i roi’r radd orau i chi allan o’ch gradd a gyfrifwyd (safoni) neu’r Graddau a Aseswyd gan y Ganolfan (graddau a gyflwynwyd gan y Coleg).

Nid yw’r broses apelio arferol ar gael eleni. Fodd bynnag, os oes gennych dystiolaeth gredadwy nad yw’r radd a roddwyd i chi yr hyn y byddech wedi’i ddisgwyl yn seiliedig ar eich gwaith eleni, bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwyno Graddau a Aseswyd gan y Ganolfan.

Mae’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) wedi rhoi’r fideo byr hwn at ei gilydd i egluro’r broses gymwysterau maen nhw’n ei gweithredu.