Newyddion y Coleg
Rhydgrawnt ar y gorwel i 11 myfyriwr talentog
Mae 11 myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd amodol i astudio naill ai ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2026.
Mae’r myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg ar Gampws Gorseinon, sydd â’r nod o roi’r paratoadau gorau posibl i fyfyrwyr sy’n anelu at symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group. Y myfyrwyr yw:
Darllen mwy
Dathlu effaith drawsnewidiol prentisiaethau
Fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026, mae Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Kift, yn tynnu sylw at fanteision prentisiaethau i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru.
Yn yr economi sy’n cyflym esblygu heddiw, mae busnesau’n wynebu pwysau cyson i aros yn gystadleuol, arloesol a chynhyrchiol. Un strategaeth hynod effeithiol yw prentisiaethau ac, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn gweld yn ddyddiol yr effaith drawsnewidiol y maen nhw’n ei chael ar fusnesau ledled Cymru.
Darllen mwy
Academi Bêl-rwyd CGA yn Bencampwyr Cymru ar ôl ennill Cwpan yr Arlywyddion
Coronwyd Academi Bêl-rwyd CGA yn Bencampwyr Cymru ar ôl penwythnos llwyddiannus o gystadlu yng Nghwpan Arlywyddion Pêl-rwyd Cymru, a gynhaliwyd ym Mangor.
Ar ôl teithio hyd y wlad, fe wnaeth y garfan arddangos dygnwch ac undod rhagorol, gan berfformio’n wych drwy gydol y gystadleuaeth. Gweithiwyd gyda’i gilydd fel carfan o 12 i sicrhau’r tlws cenedlaethol. Roedd eu perfformiadau yn gyson trwy gydol y penwythnos, ac fe wnaethant arddangos gwaith tîm cadarn a meddylfryd cydweithredol a wnaeth ddwyn ffrwyth mewn gemau dwys.
Darllen mwy
Coleg yn dathlu’r prentisiaid a’r cyflogwyr gorau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Swansea.com fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026.
Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid y Coleg, staff a chyflogwyr partner o bob cwr o Gymru a Lloegr, ac wrth y llyw roedd y cyflwynydd/darlledwr Ross Harries, sydd wedi bod yn wyneb rygbi Cymru am fwy na degawd.
Darllen mwy
Ysgol Gaeaf - Zhuzhou No.2 Middle School
Braf oedd croesawu disgyblion o Zhuzhou No. 2 Middle School i Goleg Gŵyr Abertawe fis diwethaf fel rhan o’r rhaglen Ysgol Gaeaf, lle cafwyd cyfle i gysgodi dosbarthiadau Safon Uwch a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau ar draws Abertawe a’r cyffiniau.
Roedd y disgyblion yn ddiolchgar iawn o gael cyfle i fynd i wersi safon uwch a phrofi ein math ni o addysgu, gan nodi’r gwrthgyferbyniad rhwng ein dulliau ni â’u system addysg gartref nhw.
Darllen mwy
Adeiladu dyfodol cynaliadwy
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys amgylchedd adeiledig, daearyddiaeth a daeareg eu gwahodd i anerchiad ar Ddyfodol Carbon Sero Net (CSN) ar Gampws Gorseinon, Coleg Gŵyr Abertawe.
Dan arweiniad Pennaeth Cynaliadwyedd McCann and Partners, Virginia Clement, fe wnaeth yr anerchiad archwilio beth mae CSN yn ei olygu yn ymarferol. Yn ogystal, fe wnaeth y sesiwn roi sylw i’r ddwy brif elfen o CSN (carbon gweithredol a charbon ymgorfforedig) ac amlinellu’r nodau allweddol sy’n llywio’r trawsnewidiad i amgylchedd adeiledig carbon-isel.
Darllen mwy
Annog pobl ifanc i rannu eu barn am ddyfodol addysg bellach
Yn ddiweddar, fe aeth dau gynrychiolydd o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad Grŵp Trawsbleidiol ar Addysg Bellach a Sgiliau, dan ofal ColegauCymru yng Nghymru.
Fe wnaeth pobl ifanc o golegau ledled Cymru gwrdd ag Aelodau o’r Senedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn ogystal ag arweinwyr sector yng nghyfarfod olaf y Grŵp Trawsbleidiol y tymor Senedd hwn. Archwiliwyd cyfranogiad ôl-16 a phrofiadau dysgwyr wrth iddynt lywio trwy dirwedd addysg drydyddol esblygol Cymru.
Darllen mwy
Trip Profiad Gwaith a Ariennir gan Taith i DreamHack Stockholm
Cafodd Adran E-chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe gyfle i fynd i DreamHack Stockholm yn 2025. Fe wnaeth wyth dysgwr ymweld â Sweden i ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn y diwydiant e-chwaraeon, gan ddysgu mwy am ymarfer rhyngwladol.
Darllen mwy
Mix Up! Dadl Hawliau Dynol
Yn ddiweddar. Cafodd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe gyfle unigryw i gymryd rhan yn Mix Up! - platfform digidol wedi’i gynllunio i drafod pynciau sydd â themâu penodol. Fe wnaethon nhw ymgysylltu â chyfoedion o’r Iseldiroedd, y Ffindir, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal a Sbaen. Pwnc y mis hwn oedd Hawliau Dynol, a ddewiswyd i ddathlu’r Datganiad Hawliau Dynol, a lofnodwyd gan y Cenhedloedd Unedig ar 10 Rhagfyr 1948 i atal erchyllterau’r Holocost rhag digwydd eto.
Darllen mwy
Energybuild Ltd yn sicrhau elw blynyddol o £1.2 miliwn trwy hyfforddiant a ariennir yn llawn
Mae partneriaeth rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Energybuild Ltd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn yn weithredol ac yn ariannol. Mae’r bartneriaeth wedi manteisio ar gymwysterau Technegau Gwella Busnes (TGB) sy’n cwmpasu testunau megis effeithlonrwydd gweithredol, arbed arian a chynhyrchiant yn y gweithle.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 3
- Tudalen nesaf ››