Mae fy ngwaith yn rhoi boddhad mawr, yn helpu dysgwyr i gyrraedd eu nod, oherwydd mae pob dysgwr yn haeddu hyrwyddwr - oedolyn a fydd bob amser yn ei gefnogi, sy'n deall grym cysylltiad ac sy'n mynnu bod y dysgwr yn gweithio i fod y gorau y gall fod."

Jamie Scammel
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Jamie Scammell
 

Yn bersonol, dwi wedi cael llawer o ddatblygiad positif drwy weithio yn y Coleg yn ogystal â'r boddhad o helpu dysgwyr i symud ymlaen"

Bernice Edogiawerie
Hyfforddwr Bugeiliol

Bernice Edogiawerie
 

Mae astudio a gweithio yn y Coleg wedi rhoi llawer o brofiad i mi"

Karolis Lisauskas
Technegydd TG

Karolis Lisauskas
 

Ers i mi ddechrau yn y Coleg, dwi wedi gwerthfawrogi'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'r Coleg bob amser wedi bod yn barod i gyfrannu cyllid i gynorthwyo fy anghenion hyfforddi"

Laura Loughlin
Darlithydd – Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Laura Loughlin
 

Mae gweithio yng Ngholeg Gwyr Abertawe wedi rhoi cyfle i mi weithio mewn amgylchedd gwerth chweil a chadarnhaol. Mae wedi cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i mi ac ar yr un pryd dwi wedi gallu helpu myfyrwyr i gyrraedd eu nod"

Hannah Pearce
Rheolwr Maes Dysgu – Amgylchedd Adeiledig

Hannah Pearce
 

Fel gweithiwr dwi'n gallu cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cefnogol yn y Coleg. Dwi'n cael cyfleoedd i gyfrannu at nodau ac amcanion y Coleg"

Sharon Barron
Clerc i Gadeirydd y Llywodraethwyr

Sharon Barron
 
 

Mae’ch dyfodol yn dechrau yma. Ydych chi am wneud gwahaniaeth?

Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a chynorthwyo ein dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn drwy ddarparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau.

Drwy ymuno â ni yn y Coleg, byddwch yn rhan o dîm o staff hynod ymroddedig a thalentog gan ddarparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi rhagorol i bobl ifanc, oedolion a chyflogwyr ar draws De-orllewin Cymru.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu pecyn buddion ardderchog ac amgylchedd gwaith cadarnhaol a chroesawgar. Ein nod yw denu’r ystod ehangach o ddoniau i fod yn rhan o Goleg Gŵyr Abertawe. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn gefnogi ein cymuned leol.

Sarah King
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Sarah King

Chwilio ein cyfleoedd gyrfa

Gweld yr holl swyddi gwag

Buddion a Lles

holidays

Gwyliau
Rydyn ni’n darparu hawl gwyliau hael i ddarlithwyr a staff cymorth busnes, gyda gwobrau am hirhoedledd.

Salaries

Cydnabyddiaeth Ariannol
Rydyn ni’n darparu cyflogau sy’n gystadleuol yn genedlaethol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i’r cyflog byw dyheadol.

Pensions

Pensiynau
Rydyn ni’n cofrestru ein holl staff ar gynlluniau pensiwn perthnasol ac yn talu cyfraniadau sylweddol tuag atynt.

Wellbeing

Lles
Mae’r Coleg yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac mae’n falch o fod wedi ennill Gwobrau Iechyd Corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.

Ein cymuned o staff

Yr hyn mae ein staff yn ei ddweud amdanom

90%

90% yn argymell y Coleg fel lle da i weithio

88%

Dywedodd 88% bod y Coleg yn eu cefnogi wrth weithio gartref

87%

Dywedodd 87% fod eu rheolwr yn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithio gartref

85%

Dywedodd 85% eu bod wedi cael cymorth da gan eu rheolwr llinell