Skip to main content
Staff

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn credu bod gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu ein myfyrwyr a’n cymunedau lleol yn arwain at newid cadarnhaol ac yn gwella perfformiad. Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol ac yn falch o fod yn Enillydd Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant Gorau Cymru Iach ar Waith yn 2021.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni’n falch bod gyda ni rwydwaith LGBTQ+ rydyn ni’n gweithio gydag ef i hyrwyddo hawliau LGBTQ+ a chynhwysedd ar draws y Coleg.

Mae ein Gweithgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cwrdd yn rheolaidd i drafod ffyrdd y gallwn ddod yn sefydliad mwy cynhwysol ac amrywiol ac rydym yn cynnal digwyddiadau a mentrau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Ein hamcanion cydraddoldeb allweddol yw:

  1. Gwella ein lefelau recriwtio a chyfleoedd dyrchafu i staff sydd wedi’u tangynrychioli fel BAME, LGBTQ+, anabl.
  2. Bod yn gyflogwr a chymuned gynhwysol ar gyfer ein holl staff a dysgwyr.
  3. Gwella ein prosesau casglu a monitro data.
  4. Parhau i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith staff a dysgwyr.
  5. Cau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion ni waeth beth yw eu hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu eu mynegiant rhywedd, cefndir economaidd gymdeithasol, crefydd a/neu gredo. Byddwn yn ystyried ceisiadau gweithio hyblyg ar gyfer pob rôl, oni bai bod gofynion gweithredol yn atal fel arall. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sefydliad ar hyn o bryd.

Os oes gennych anabledd a byddai’n well gennych wneud cais mewn fformat gwahanol neu os hoffech i ni wneud addasiadau rhesymol i’ch galluogi i wneud cais neu ddod i gyfweliad, rhowch wybod i ni.