seren

Ymweliad y Clintons â Phrifysgol Abertawe yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth cenedlaethau’r dyfodol

Nid bob dydd rydych yn cael cwrdd â chyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton a’r Ysgrifennydd Hillary Rodham Clinton.

Ond dyna yn union a ddigwyddodd i’n myfyriwr Anna Petrusenko pan aeth hi i ddigwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe

Am brofiad gwych i Anna!

Category

A Level and GCSE

Coleg yn lansio HE+ ac Academi Seren ar gyfer 2019

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu dros 400 o ddysgwyr i Gampws Gorseinon ar gyfer lansio rhaglen HE+ ac Academi Seren 2019/20.

Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm HE+ Abertawe, sy’n gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.

Yn ystod y lansiad eleni, roedd myfyrwyr o’r Coleg a’r ysgolion wedi gwrando ar anerchiad croeso gan Fiona Beresford, Cydlynydd HE+ a Seren Abertawe, a Dr Jonathan Padley, Cymrawd a Thiwtor Derbyn yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.

Category

A Level and GCSE

Annog disgyblion i ‘anelu’n uchel’ mewn digwyddiad Coleg

Yn ddiweddar, trefnodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad arbennig i ddisgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion uwchradd ar draws Abertawe.

Roedd lansiad rhaglen Sylfaen Seren yn Stadiwm Liberty wedi rhoi cyfle i bron 400 o bobl ifanc ddysgu rhagor am yr amrywiaeth o ddewisiadau addysg uwch y gallent eu harchwilio ar ôl cwblhau eu cyrsiau Safon Uwch.

Category

A Level and GCSE
Subscribe to seren