Skip to main content

Gweithdy Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin

Ar 12 Mehefin, gaeth myfyrwyr cyfryngau cyfle arbennig i gyd weithio gyda chwmni proffesiynol o'r enw Carlam sydd yn rhan o gymuned Yr Egin, Caerfyrddin i greu rhaglen byw ac yna ei ffrydio yn fyw. 

Buont yn gweithio fel rhan o grŵp i gyflawni tasg o dan amodau amser penodol gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, cynhyrchu a gwaith camera. Cawsant brofiad o gynllunio, ffilmio a golygu cynnwys promo gan ystyried yr elfennau gwahanol o greu rhaglen.

Tagiau

Bwrsariaeth addysgu dwyieithog ar gael i ddysgwyr Cymraeg

Fel rhan o’n nod o ddatblygu gweithlu dwyieithog a hyfforddi staff newydd i gynnig y Gymraeg i’n dysgwyr, mae’r cyfle gwych yma ar gael i chi. 

Os ydych yn siarad Cymraeg ac yn cysidro gwneud cymhwyster TAOR er mwyn cymhwyso fel tiwtor neu ddarlithydd yn y sector ôl 16, mae cyfle gwerthfawr i chi ymarfer mewnosod y Gymraeg yn y dosbarth gyda grwpiau dwyieithog.  Byddwch yn gymwys i wneud cais am y fwrsariaeth addysgu ddwyieithog gwerth £500 y flwyddyn.  

Heledd yn cael blas ar lwyddiant

Mae’r myfyriwr Busnes Coleg Gŵyr Abertawe, Heledd Hunt, yn brysur yn jyglo ei hastudiaethau Lefel 3 a rhedeg ei chwmni ei hun.

Cychwynodd Heledd ei busnes – Hels Bakes Cakes – ym mis Medi 2022, gan arlwyo ar gyfer digwyddiadau megis partїon pen-blwydd. A hithau’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn un o Lysgenhadon Cymraeg y Coleg, yn ddiweddar gofynnwyd iddi arlwyo ar gyfer digwyddiadau’r Wythnos Gymraeg ar draws y campws, lle roedd 250 o’i chacennau cwpan i’w gweld ar y fwydlen.

Wythnos Gymraeg

Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi.

Cawsom fore coffi ar bob campws, gyda chacennau hyfryd gan un o’n myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Busnes, Heledd Hunt sydd a busnes ei hun ar instagram @helsbakescakes. Wrth gwrs roedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr a staff hefyd!

Cafwyd perfformiadau gan Dafydd Mills o Menter Abertawe ar gampws Llwyn y Bryn a Cwrt Jiwbili a Ed Holden aka Mr Phormula bitbocsiwr a rapiwr Cymraeg ar gampws Tycoch a Gorseinon.

Tagiau

Coleg yn cynnal Dydd Miwsig Cymru

Mi oedd campysau Coleg Gŵyr Abertawe dan ei sang yr wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg.    

Bu prosiect ar y cyd rhwng y Coleg, Menter Abertawe â Llywodraeth Cymru yn golygu bod yr artistiaid Cymraeg Mellt, Mali Haf, Dafydd Mills, Mei Gwynedd a Parisa Fouladi yn chwarae ar ein llwyfannau ar gampws Tycoch, Gorseinon a Llwyn y Bryn.  

Nod yr wythnos oedd codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg.  

Coleg yn dathlu Santes Dwynwen

Wythnos diwethaf (dydd Llun 23 Ionawr) dathlodd y Coleg Ddydd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, ychydig yn wahanol. Penderfynom roi gwobrau am straeon newyddion da, cyfeillgar a chadarnhaol drwy ofyn i staff a dysgwyr enwebu rhywun sydd wedi bod yn gyfeillgar, yn gariadus ac wedi dangos ysbryd cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   

Y Fari Lwyd yn dod yn fyw yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Cynhaliwyd y dathliad diwylliannol Cymreig o’r 17eg ganrif ar ein campysau yn Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon, wrth i fflach-berfformiad o geffyl y Fari Lwyd wneud ei ffordd drwy’r safleoedd. 

Yn draddodiadol, mae’r Fari Lwyd yn ddathliad Blwyddyn Newydd i nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf ac i groesawu’r gwanwyn. Ar un adeg roedd yn cael ei dathlu ledled Cymru, ond erbyn hyn mae’n draddodiad sy’n gysylltiedig â de a de-ddwyrain y wlad. 

Myfyrwyr yn mwynhau gweithdy tecstilau

Bu myfyrwyr Tecstiliau UG a Lefel A Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy gwehyddu gyda Llio James, gwehydd Cymreig sydd â diddordeb mewn datblygu'r berthynas rhwng gwehyddu llaw a'r diwydiant gwlân traddodiadol yng Nghymru.  

Wrth archwilio'r teimlad o berthyn i wlad a diwylliant, rhan lliw o'r broses ddylunio, wrth iddi edrych ar gyfran, graddfa a siapiau geometrig wrth wehyddu brethyn. 

Bu’r gweithdy yn gyfle i fyfyrwyr archwilio natur gwasgu felt a gwehyddu â llaw gan ddefnyddio gwlân naturiol, edau a gwrthrychau a ganfuwyd i ystyried gwead, lliw a siapiau.  

Diwrnod Blasu Nyrsio. Bydwreigaeth a Gofal Cymdeithasol

Trefnwyd Diwrnod Blasu Nyrsio, Bydwreigaeth a Gofal Cymdeithasol ar y cyd gyda Academi Hywel TEifi, Prifysgol Abertawe i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb dilyn gyrfa yn y meysydd hynny.

Trefnwyd y diwrnod gan Anna Davies, Rheolwr y Gyrmaeg “Y nod oedd annog myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i astudio eu cwrs Nyrsio, Bydwreigaeth neu Gofal Cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac ymgeisio am ysgoloriaeth cymhelliant sydd ynghlwm a’r cyrsiau hynny.”