Skip to main content

Sgiliau Weldio Rhagarweiniol, Canolradd ac Uwch Lefel 1/Lefel 2/Lefel 3

Rhan-amser
C&G
Tycoch
34 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

       P’un a ydych yn ddechreuwr neu’n ystyried gwella eich sgiliau, mae’r cwrs hwn yn darparu profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn technegau weldio amrywiol. Byddwch yn dysgu am weldio MIG/MMA a TIG a deall defnyddiau ac arferion diogelwch gwahanol, gan ennill yr arbenigedd sydd ei angen i fynd i’r afael â phrosiectau weldio yn hyderus. 

Byddwch yn astudio’r prosesau canlynol: 

  • Weldio MIG 
  • Weldio TIG 
  • Weldio MMA neu nwy 
  • Plât a phibell (dur gwrthstaen / alwminiwm).

Gwybodaeth allweddol

Bydd cyfweliad cyn cofrestru.

Addysgir y cwrs dros 32 wythnos yn rhannol mewn ystafell ddosbarth/gweithdy. 

Bydd angen profion gweledol ac NDT (Profion Anninistriol) ar gyfer samplau weldio ac arholiad papur er mwyn cwblhau’r cwrs. 

Gallech symud ymlaen i ddysgu technegau gyda dur adeileddol / pibellau

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech ddewis HND mewn Peirianneg Drydanol neu Beirianneg Fecanyddol

Mae’r cwrs hwn yn llwybr carlam i ail flwyddyn rhaglen prentisiaeth neu mae’n dderbyniol ar gyfer mynediad i’r Diploma Cenedlaethol Uwch. 

Explore in VR