Skip to main content

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gosodiadau Electrodechnegol) - Prentisiaeth Available in Welsh

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 3
EAL
Tycoch
Tair neu bedair blynedd
Cyfrwng Cymraeg neu Saesneg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gosodiadau Electrodechnegol) yn canolbwyntio ar unedau theori sy’n ymdrin â dylunio, gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau domestig cymhleth. Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau hyfforddiant ymarferol mewn lleoliad gweithdy, a byddan nhw’n casglu tystiolaeth ymarferol addas gyda’u cyflogwr.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r llwybr prentisiaeth yn addas i ddysgwyr sydd:

  • Yn 16+ oed ac yn gweithio yn y maes ar hyn o bryd
  • Wedi llwyddo ym mhob asesiad mynediad perthnasol i’r sector (lle bo’n briodol)
  • Wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu’r cyfwerth cydnabyddedig):
    • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ar Lefel 2
    • Cymhwyster Dilyniant Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu ar Lefel 2*
    • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
    • TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddonol neu bwnc technegol (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati)
    • TGAU gradd A-C mewn CBAC TGAU Amgylchedd Adeiledig
    • Cymhwyster Lefel 2 'Mynediad i Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu' a/neu gymwysterau cyfwerth.

Cymysgedd o waith cwrs, asesiadau ymarferol, ac arholiadau ar-lein.

Strwythur asesu:

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol:

  • Blwyddyn 1 - Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Blwyddyn 2 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosodiadau Electrodechnegol (Canolradd)
  • Blwyddyn 3 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosodiadau Electrodechnegol (Uwch).

Bydd yn ofynnol i bob prentis fodloni gofyniad yr asesiad terfynol ar gyfer y diwydiant cydnabyddedig y cyfeirir ato fel AM2S. Diben yr asesiad AM2S yw sicrhau bod pob trydanwr yn cyrraedd safon gyson y cytunwyd arni gan gyflogwyr ledled y DU sy’n bodloni eu disgwyliadau ar gyfer person cymwysedig.

Bydd gofyn i’r prentis gyflawni cyfres o dasgau a gweithdrefnau cyffredin y gallai trydanwr cymwysedig eu hwynebu gan gynnwys gosodiadau trydanol, archwilio a phrofi a chanfod namau. Rhaid i’r gwaith ymarferol gydymffurfio â’r Safon Brydeinig gyfredol (BS7671:2018) a bodloni gofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac arferion gorau’r diwydiant.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Off