Skip to main content

Cyrsiau rhan-amser - Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway

Rydym wedi trefnu’r sesiynau arweiniad canlynol i’r bobl sydd â diddordeb mewn cyrsiau rhan-amser yng Nghanolfan Broadway.

Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael rhagor o wybodaeth.

  • Dydd Mercher 27 Mehefin, 5.30pm-7.30pm (Noson agored Campws Tycoch, prif adeilad)
  • Dydd Llun 9 Gorffennaf, 3.30pm-4.30pm (Broadway)
  • Dydd Iau 23 Awst, 12pm-1.30pm (Broadway)
  • Dydd Mawrth 28 Awst, 3.30pm-4.30pm (Broadway)
  • Dydd Iau 30 Awst, 12pm-1.30pm (Broadway)
     

Diwrnod Agored Canolfan Broadway - 6 Mehefin

Diwrnod Agored Canolfan Broadway
Dydd Mercher 6 Mehefin
10am – 4pm

Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn trin gwallt, harddwch neu therapïau cyfannol?

Os felly, dewch i’n diwrnod agored ar 6 Mehefin lle gallwch gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau amser llawn a rhan-amser sy’n dechrau ym mis Medi.

Gallwch hefyd edrych o gwmpas ein cyfleusterau dysgu/addysgu gwych sy’n cynnwys ardaloedd trin gwallt proffesiynol, ystafelloedd triniaeth hamddenol a sba moethus.

Digwyddiad gwallt a harddwch yn ysbrydoli gweithwyr proffesiynol y diwydiant

Yn ddiweddar roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal noson i ddathlu ac ysbrydoli talent Cymru ar draws y sector trin gwallt a harddwch.

Roedd staff, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol o’r byd diwydiant yn bresennol yn y dosbarth meistr trin gwallt a choluro ym Mhlas Sgeti. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r arddangosiadau ymarferol gan gyfarwyddwr y salon (a chyn-fyfyriwr) Casey Coleman a Chris Howells, artist coluro rhyngwladol i Laura Mercier.