Coleg Gŵyr Abertawe yn disgleirio mewn Arddangosfa Printiau
Cafodd staff a myfyrwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe eu dewis yn ddiweddar i arddangos eu gwaith celf yn Oriel Mission, fel rhan o brosiect arloesol sydd wedi uno artistiaid a phobl greadigol yn yr ardal leol.
Teyrnged artistig: Gwobrau lu i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe am eu portreadau o Rhys Ifans
Mae dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod wrthi yn braslunio, peintio a chreu celf digidol a seramig ar gyfer cystadleuaeth portreadau flynyddol 9to90, ac unwaith eto, maen nhw wedi ennill mewn sawl categori!
Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill cystadleuaeth Portread Anifail Anwes
Mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghategori dan 18 Cystadleuaeth Portread Anifail Anwes Cymuned Greadigol 9i90.
Mae’r gystadleuaeth flynyddol, a drefnwyd gan Jane Simpson o GSArtists, yn rhoi cyfle i bobl y gymuned o bob oedran a gallu ddod ynghyd ac arddangos eu gwaith yn yr oriel.
Sioe Haf Celf a Dylunio Sylfaen 2021 – “2031”
Croeso i’n Harddangosfa Celf a Dylunio Sylfaen, yn seiliedig ar y thema “2031”. Mynnwch gip ar ein sioe rithwir isod trwy glicio ar y cylchoedd i symud o gwmpas. Cliciwch a llusgwch i edrych i unrhyw gyfeiriad a chliciwch ar y cylchoedd pinc i wylio fideos o’n myfyrwyr yn trafod eu gwaith!
Arddangosfeydd Celfydyddau Gweledol - Yma, Nawr
Croeso i'n arddangosfeydd Yma, Nawr
Yn nhymor cyntaf eu cyrsiau, roedd ein myfyrwyr Celf a Dylunio Lefel 3 a Diploma Sylfaen yn brysur yn creu darnau gwych ar gyfer eu harddangosfa gyntaf o'r flwyddyn academaidd, yn seiliedig ar y thema Yma, Nawr.
Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill cystadleuaeth Rob Brydon
Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghategori dan 18 Cystadleuaeth Portread Cymunedol Creadigol 9to90.
Mae’r gystadleuaeth flynyddol, a drefnwyd gan Jane Simpson o GSArtists, yn rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd o bob oedran a gallu ac i arddangos eu gwaith yn yr oriel. Ond eleni, cafwyd arddangosfa rithwir a’r thema oedd actor Rob Brydon, gyda Brydon a’i deulu yn beirniadu’r darnau.