Skip to main content

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill cystadleuaeth Portread Anifail Anwes

Mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghategori dan 18 Cystadleuaeth Portread Anifail Anwes Cymuned Greadigol 9i90.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol, a drefnwyd gan Jane Simpson o GSArtists, yn rhoi cyfle i bobl y gymuned o bob oedran a gallu ddod ynghyd ac arddangos eu gwaith yn yr oriel.

Y myfyrwyr buddugol oedd:
Ail le: Al Attala, Celf a Dylunio Lefel 2
Canmoliaeth Uchel: Ryan Jones, Celf a Dylunio Lefel 1

"Mae’r myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wir wedi mwynhau her y gystadleuaeth hon a’i phynciau gwych," dywedodd Marilyn Jones, Darlithydd Celf a Dylunio, "dydyn nhw erioed wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, heb sôn am mewn oriel neu mewn cyhoeddiad, ac felly maen nhw wrth eu bodd, yn llawn cyffro ac yn frwdfrydig tu hwnt, maen nhw’n credu ynddyn nhw eu hunain ac yn eu galluoedd – mae gyda fi’r swydd orau yn y byd!

"Nid yn unig maen nhw’n credu ynddyn nhw eu hunain nawr, ond maen nhw wedi ennill shwt gymaint o wybodaeth ynghylch sut mae arddangosfeydd yn gweithio a lle mae’r orielau wedi’u lleoli ac felly maen nhw’n teimlo yn rhan o’r gymuned," ychwanegodd.

"Mae celf i bawb, mae mor werth chweil. Dwi wedi eu gwylio nhw’n tyfu mewn sawl ffordd yn ystod y tymor a dwi mor falch ohonyn nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithredu pellach gyda’r gymuned greadigol wych yn Abertawe, a mwy o gyfleoedd gyda GS Artists."

Roedd y myfyrwyr hefyd wedi cyflwyno gwaith ardderchog ar gyfer Cystadleuaeth Portread Catherine Zeta-Jones, wedi’i feirniadu gan Catherine a’i theulu.

"Diolch i’r holl artistiaid a gyflwynodd eu gwaith. Dwi’n caru celf a dwi’n eich caru chi i gyd," dywedodd. Yn nes ymlaen fe wnaeth hi drydar "Dwi’n caru celf ac artistiaid o bob oedran, ac roedd eich cyflwyniadau a’ch ymroddiad i’ch crefft wedi gwneud i mi deimlo’n ostyngedig iawn."