Teyrnged artistig: Gwobrau lu i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe am eu portreadau o Rhys Ifans


Diweddarwyd 16/03/2023

Mae dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod wrthi yn braslunio, peintio a chreu celf digidol a seramig ar gyfer cystadleuaeth portreadau flynyddol 9to90, ac unwaith eto, maen nhw wedi ennill mewn sawl categori! 

Wedi’u trefnu gan Jane Simpson o GSArtists, mae’r cystadlaethau 9to90 yn rhoi cyfle i’r gymuned leol o bob oedran a gallu ddod at ei gilydd i arddangos eu gwaith yn yr oriel. Bob bwyddyn, mae’r gystadleuaeth bortreadau yn canolbwyntio ar rywun enwog o Gymru, gyda’r unigolyn hwnnw neu ei deulu yn dewis yr enillwyr. Yn ogystal, pob blwyddyn, mae cystadleuaeth Portread Anifeiliaid Anwes.

Eleni, y seren oedd yr actor arobryn BAFTA Rhys Ifans, sy’n enwog am actio mewn ffilmiau megis Twin Town, Notting Hill a Harry Potter, ac mae wedi bod yn brif leisydd ym mand roc y Super Furry Animals hefyd. Gwnaeth Rhys dewis yr ennillwyr ei hun.

Enillwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn y categori dan 17 oed o'r cystadleuaeth Rhys Ifans

1af – Curtis Grey 
2il – Marufa Khatun 
Cymeradwyaeth Uchel x 3 – Paige-Marie, Leo McCloskey a Carys Glen

Enillwyr Coleg Gŵyr Abertawe am y cystadleuaeth Anifeiliaid Anwes

Categori dan 17 oed

1af - Tom Buxton 
2il – Kai McCarley 
Cymeradwyaeth Uchel – Charlie Chandler 

Categori Oedolion

2il – Sophie Thomas 

“Mae 9to90 yn ddigwyddiad ardderchog nid-er-elw sy’n dathlu’r celfyddydau ac yn hyrwyddo talentau lleol,” dywedodd Marilyn Jones, Darlithydd Celf a Dylunio.

“Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ennill shwt gymaint o’r broses o ateb briff go iawn, archwilio technegau, cymhwyso sgiliau, arddangos eu gwaith a derbyn sylwadau a barn. Ac unwaith eto, mae gyda ni enillwyr o Gampws Llwyn y Bryn. Maen nhw mor greadigol!” 

Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Oriel GS Artists ar y Stryd Fawr, Abertawe. 

 

 

 

Tags: