Skip to main content

Diwrnod Lles 2022

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles blynyddol, lle cafodd staff y cyfle i fwynhau ystod eang o sesiynau gwahanol megis gweithdai, sesiynau ffitrwydd a dosbarthiadau ymlacio.

Dyma’r Diwrnod Lles wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019, a mwynhaodd ein staff ddod at ei gilydd i ymgymryd â gweithgareddau tîm. Fe wnaeth dros 400 aelod o staff gymryd rhan yn y digwyddiadau ar draws pob campws.

Togetherall - cymuned ddiogel, anhysbys ar gyfer cymorth iechyd meddwl 24/7

Iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i’w helpu. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig gwasanaeth cymorth ardderchog ar-lein o’r enw Togetherall.

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddiogel ac anhysbys i gysylltu â hi o unrhyw le, ar unrhyw adeg - p'un a oes angen i fyfyrwyr fwrw eu bol, cael sgyrsiau, mynegi eu hunain yn greadigol neu ddysgu sut i reoli eu hiechyd meddwl. Mae’r platfform yn cael ei fonitro gan glinigwyr hyfforddedig 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Coleg yn cefnogi ymgyrch genedlaethol iechyd meddwl

Mae Coleg Gŵyr Abertawe - sydd wedi ennill Gwobr Efydd, Safonau Iechyd Corfforaethol yn ddiweddar - wedi arwyddo’r Adduned Cyflogwr i fynd i'r afael â gwahaniaethu sy'n wynebu pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle.

Mae’r Adduned Cyflogwr yn rhan allweddol o’r ymgyrch genedlaethol Amser i Newid, mudiad cymdeithasol sy’n tyfu ac sydd â’r nod o newid y ffordd rydym i gyd yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch problemau iechyd meddwl.