Skip to main content
Staff play football darts

Diwrnod Lles 2022

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles blynyddol, lle cafodd staff y cyfle i fwynhau ystod eang o sesiynau gwahanol megis gweithdai, sesiynau ffitrwydd a dosbarthiadau ymlacio.

Dyma’r Diwrnod Lles wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019, a mwynhaodd ein staff ddod at ei gilydd i ymgymryd â gweithgareddau tîm. Fe wnaeth dros 400 aelod o staff gymryd rhan yn y digwyddiadau ar draws pob campws.

Ar y cyd, cafodd staff gyfle i ymgymryd â gweithgareddau tai chi, dosbarthiadau ymarfer corff, aromatherapi, gweithdai adweitheg, therapi dŵr oer ym Mae Cas-wellt, heb anghofio’r gystadleuaeth dodj-bêl, lle coronwyd yr adran Gwasanaethau Cyfrifiadurol fel yr enillwyr cyntaf erioed. Cafodd staff gyfle hefyd i fwynhau gemau Realiti Rhithwir rhagweithiol megis 'Beat the Saber', ‘Football darts’, ‘swingball’ a thenis bwrdd.

Roedd apwyntiadau iechyd a ffisiotherapi un-i-un hefyd ar gael i staff ac roedd sesiynau myfyrdod hypnotherapi Kev Webster a sesiynau tylino yn boblogaidd iawn. Cafodd y rhai a oedd yn chwilio am ffordd o ymlacio yn llwyr gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau siamanaidd, sesiynau myfyrio dan arweiniad a Ioga Nada.

Sefydlwyd stondinau yng Nghanolfan Chwaraeon y Coleg a alluogodd staff i ddarganfod rhagor am gynlluniau aelodaeth, cynllun beicio i’r gwaith a Rhwydwaith LHDTC+ Staff y Coleg. Roedd cynghorwyr iechyd a gofal hefyd ar gael i gynnig cymorth i staff.

"Roedden ni wrth ein bodd o gynnal Diwrnod Lles wyneb yn wyneb eleni. Roedd yn gyfle gwych i staff ddod at ei gilydd ac i fwynhau ac ymlacio ar ôl dwy flynedd heriol iawn.” Meddai’r Cyfarwyddwr AD, Sarah King. “Mae staff wedi dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y digwyddiad hwn, sy’n ffocysu ar eu hiechyd a’u lles, ac edrychwn ymlaen at gynnal y digwyddiad yn y dyfodol. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gymerodd rhan ac i’n partneriaid corfforaethol a chymunedol, a ymunodd a ni ac a gefnogodd y digwyddiad hwn."

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Ddyfarniad Iechyd Corfforaethol Safon Aur sy’n cydnabod ei bolisi mewn perthynas â hybu a chynnal iechyd a lles o ansawdd uchel yn y gweithle. 

Dim ond un enghraifft yw’r Diwrnod Lles o’r hyn rydym yn ei wneud i gefnogi iechyd a lles staff. Mae’r Coleg yn cynnal ymgyrchoedd o’r fath yn rheolaidd, megis Diwrnod Amser i Siarad (ymwybyddiaeth iechyd meddwl), Wythnos Hydradu, Sesiynau Menopos, Wythnos Gofal Cefn ac Wythnos Dim Ysmygu. Mae gan staff hefyd fynediad 24 awr at gymorth trwy ddarparwr iechyd a lles yn y gweithle.