Skip to main content

Cadw mewn cysylltiad â Choleg Gŵyr Abertawe

Mae trysor cudd o dalentau, arloesedd, ac atgofion cyffredin yn gorwedd yng nghanol cymuned fywiog Coleg Gŵyr Abertawe.

Ers degawdau, mae’r sefydliad uchel ei barch hwn wedi helpu i wireddu breuddwydion, gan feithrin myfyrwyr di-ri ar eu llwybr i lwyddiant. Nawr, wrth i Goleg Gŵyr Abertawe symud yn hyderus i’r dyfodol, mae’n ceisio ailgysylltu â’i rwydwaith amhrisiadwy o gyn-fyfyrwyr.

Tagiau

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i ysbrydoli pobl ifanc greadigol

Dychwelodd wyneb cyfarwydd i Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar wrth i’r cyn-fyfyriwr Billie-Jo Matthews gamu i’r adwy i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc greadigol.

Cwblhaodd Billie-Jo gwrs BTEC Estynedig Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i ddilyn BA (Anrh) yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, ac yna MSc mewn Marchnata Strategol.

Cyn-fyfyriwr arlwyo yn dychwelyd i’r Coleg

Croesawodd y myfyrwyr a’r staff arlwyo y cyn-fyfyriwr arlwyo, Nick Jones, yn ôl i’r Coleg i arddangos ei sgiliau coginio i’r myfyrwyr mis diwethaf.

Darparodd Nick, a dechreuodd astudio Diploma mewn Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Lefel 1 a gorffen gyda chwrs Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch (Cegin a Phantri) lefel 3, arddangosiad coginio gydag Academi Fforwm y Cogyddion.

Helpu i achub bywydau gyda data diolch i’r Coleg

Mae cariad at ddata yn helpu un o gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i chwarae rhan annatod yn y GIG, ar ôl i’w choleg ei chynorthwyo i ddilyn prentisiaeth ddelfrydol er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

Mae Laurice Keogh (19) o Gasllwchwr, Abertawe, wedi bod â’i bryd ar yrfa mewn data ers pan oedd yn ifanc. Heddiw, mae’r awydd hwnnw wedi arwain at ddechrau gyrfa fel prentis gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), gan helpu i newid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.

Myfyriwr Technoleg Peirianneg yn rhagori ar Brentisiaeth Gradd

Mae alwm Technolegau Peirianneg, Fleet Morgan, wedi ei osod ar Brentisiaeth Gradd gyda cwmni, MBDA Missile Systems.

Mae Fleet yn ennill arian wrth ddysgu gan treulio pedwar diwrnod gyda'r cwmni ac un diwrnod yn Prifysgol Swydd Hertford.

Nid yn unig y mae’n cael profiad o wahanol feysydd y cwmni ac yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, ond mae MBDA Missile Systems yn talu ei ffioedd dysgu yn ogystal â chyflog cychwynnol o £14,500 a allai o bosibl gynyddu £4,000 bob blwyddyn tra bydd ar y brentisiaeth.

Tagiau

Taro’r nodau uchel – o berfformwyr ‘brenhinol’ i arwyr y cae rygbi

Dewch i gwrdd ag allforion Abertawe sy’n concro’r byd

O Dylan Thomas a Catherine Zeta Jones i Joe’s Ice-cream a’r ‘Jacks’ – mae gan Abertawe llawer i’w gynnig.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ceir enwau enwog niferus. Dyma ond ychydig o’r cyn-fyfyrwyr sydd wedi gadael eu holion ym myd y celfyddydau, chwaraeon a bwyd –  i enwi ond ychydig ohonynt.

Tagiau