Skip to main content
Llun pen ac ysgwydd o fenyw

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i ysbrydoli pobl ifanc greadigol

Dychwelodd wyneb cyfarwydd i Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar wrth i’r cyn-fyfyriwr Billie-Jo Matthews gamu i’r adwy i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc greadigol.

Cwblhaodd Billie-Jo gwrs BTEC Estynedig Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i ddilyn BA (Anrh) yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, ac yna MSc mewn Marchnata Strategol.

Mae hi hefyd wedi gweithio yn y sectorau marchnata creadigol a chyfryngau cymdeithasol, gyda chwmnïau technoleg mawr ac fel gweithiwr llawrydd.

Drwy gydol y cyfnod hwnnw, roedd Billie-Jo wedi cadw mewn cysylltiad â’i darlithwyr a phan soniodd Arweinydd Cwricwlwm y Cyfryngau Creadigol, Jarrod Waldie, am rai cyfleoedd llawrydd yn y Coleg, roedd Billie-Jo yn falch iawn o gymryd rhan.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda fy nghwrs BTEC ac yn teimlo ei fod wedi fy helpu’n aruthrol i ddatblygu fy ngalluoedd creadigol,” meddai “Fe wnes i fwynhau fy amser fel cynorthwyydd yn yr ystafell ddosbarth yn fawr, yn helpu myfyrwyr gyda’u prosiectau creadigol ac yn dysgu sut mae ystafell ddosbarth yn gweithio o’r ochr arall! Mae gwylio’r bobl ifanc hyn yn ffynnu yn eu galluoedd creadigol yn wych ac fe wnes i wir fwynhau rhoi cipolwg iddyn nhw ar waith fel llawrydd llwyddiannus yn y diwydiant.”

Mae Billie-Jo nawr yn edrych ymlaen at ddilyn cwrs PhD yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae fy mhrosiect yn mynd i archwilio sut mae’r cyfryngau cymdeithasol a chyfalafiaeth gwyliadwriaeth yn effeithio ar bobl ddifreintiedig mewn cymdeithas,” meddai Billie-Jo. “Yn y pen draw, dwi’n gobeithio y galla i weithio fel darlithydd a rhoi anerchiadau i wella llythrennedd yn y cyfryngau a diogelwch ar-lein i’r rhai o fewn demograffeg ddifreintiedig.”