Skip to main content

Coleg yn cael partner blaenllaw yn Tsieina

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Peirianneg Galwedigaethol Changzhou (CZIE), Tsieina.

Mae CZIE yn goleg galwedigaethol o’r radd flaenaf yn Tsieina, a sefydlwyd yn gyntaf ym 1958. Gwnaethpwyd y cyflwyniad i’r sefydliad gan Lywodraeth Cymru, Shanghai, a helpodd i drefnu’r digwyddiad hefyd.

Cynhaliwyd y seremoni lofnodi rithwir ddydd Mawrth 19 Hydref, lle roedd tua 100 o fyfyrwyr a staff yn Tsieina yn bresennol, gan gynnwys Llywydd ac Is-lywydd CZIE, cydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn Tsieina a Chaerdydd, a WorldSkills UK.

Tagiau

Diwrnod iachusol allan ym Mae Rhosili

Roedd golygfeydd hyfryd a thraeth eang Bae Rhosili wedi creu cryn argraff ar ein carfan blwyddyn 1af bresennol.

Roedd y myfyrwyr yn falch iawn o gael cyfle i ymlacio gyda’i gilydd a chymdeithasu ar un o draethau mwyaf poblogaidd Bro Gŵyr. Roedd glaw yn edrych yn debygol, ond yn ffodus, roedd y tywydd wedi aros yn sych ac yn fwyn yn ystod ein hymweliad grŵp.

“Dyma un o’r golygfeydd gorau dwi erioed wedi’i gweld, ac mae Pen Pyrod yn fy atgoffa i o’m hoff draeth gartref,” meddai Nick, sy’n wreiddiol o Gambodia.

Tagiau

Ysgol Bartner newydd yn Noida, India

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Ddealltwriaeth gydag Ysgol Prometheus yn Noida, India.

AARC (Asesu Addysg Ryngwladol Caergrawnt) achrededig yw Ysgol Prometheus a chafodd ei denu i Goleg Gŵyr Abertawe oherwydd ein profiad a’n llwyddiant yn y sector Safon Uwch. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn cydweithredu ar nifer o feysydd gan gynnwys ysgolion haf a gaeaf, tiwtorialau ar-lein a’r Rhaglen Paratoi Rhydygrawnt.

Tagiau

Arddangos sgiliau o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno â WorldSkills UK i arddangos sgiliau o’r radd flaenaf.

Roedd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dangos eu sgiliau peirianneg electronig o’r radd flaenaf mewn digwyddiad hyfforddiant rhithwir gyda myfyrwyr o bob rhan o Tsieina. 

Y digwyddiad oedd y cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yng Nghymru, ac fe’i trefnwyd gan WorldSkills UK, yr elusen addysg a sgiliau, gan gefnogi ei raglen i gyfnewid arfer gorau mewn datblygu sgiliau gyda gwledydd ledled y byd.

Coleg Gŵyr Abertawe yn arwyddo partneriaeth ag ysgol Tsieineaidd

Cynhaliwyd seremoni arwyddo unigryw ac arbennig iawn ddydd Mercher 1 Gorffennaf rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang, Talaith Guangdong, Tsieina.

Mae Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang yn ysgol ryngwladol gydag addysg gynradd, iau ac uwchradd, ar gampws sydd tua 60,000 metr sgwâr.

Mae rhyngwladoli yn flaenoriaeth i Goleg Gŵyr Abertawe, ac mae’n croesawu myfyrwyr o Tsieina bob blwyddyn i astudio amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys ein cyrsiau Safon Uwch.

Tagiau

Seremoni raddio rithwir i fyfyrwyr rhyngwladol

Diolch i ryfeddodau technoleg ddigidol, cafodd ein myfyrwyr rhyngwladol seremoni raddio wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol.

Ar 29 Mehefin, roedd ein myfyrwyr Safon Uwch wedi mynd i ddigwyddiad ar-lein, a oedd â nifer o negeseuon gan staff ar draws y Coleg, gan gynnwys y Pennaeth, Mark Jones.

Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau sioe sleidiau o’u rhaglen gymdeithasol cyn i Terry Summerfield, Tiwtor Rhyngwladol, gyflwyno’r tystysgrifau.

Tagiau

Llwyddiant ysgoloriaeth i fyfyriwr Rhyngwladol

Mae Jarrett Zhang yn dathlu ar ôl cael ysgoloriaeth £180,000 gan gwmni mwyngloddio Rio Tinto i astudio Daeareg yng Ngholeg Imperial Llundain.

Bydd Jarrett, a gafodd dwy radd A* ac un A yn ei arholiadau Safon Uwch yn ddiweddar, yn derbyn £45,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd, i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw. Cafodd ysgoloriaeth Rio Tinto ei roi i ddau fyfyriwr yn unig yn 2019 ac felly mae hyn yn gyflawniad gwych.

Roedd Jarrett hefyd wedi dathlu llwyddiant chwaraeon eleni pan enillodd bencampwriaethau tennis bwrdd Colegau Cymru 2019.

Tagiau