Skip to main content
Dathlu Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol – Dosbarth ‘21

Dathlu Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol – Dosbarth ‘21

Roedd myfyrwyr Rhyngwladol yr ail flwyddyn wedi dathlu eu Graddio U2 yn ddiweddar yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. 

Yn sicr, mae Dosbarth ‘21 i’w ganmol ar gwblhau eu hastudiaethau eleni. Mae’r garfan yn cynnwys myfyrwyr o Tsieina, Hong Kong, De Corea a Thaiwan a ddechreuodd eu rhaglenni Safon Uwch ym mis Medi 2019.  
 
Maen nhw wedi llwyddo i barhau i ganolbwyntio a goresgyn amrywiaeth o heriau logistaidd ac wedi mynd ymlaen i gael cynigion prifysgol o’r radd flaenaf. Mae ein teuluoedd croesawu lleol wedi annog ein myfyrwyr rhyngwladol drwy gydol cyfyngiadau Covid-19 a rhannu eu lleoedd astudio cartref wrth i staff cwricwlwm fynd yr ail filltir i gynnal dilyniant academaidd. 

Mae potensial y grŵp deinamig hwn wedi’i gadarnhau gan doreth o gynigion prifysgol gwych.

Roedd cynigion cwrs yn cynnwys meddygaeth yng Nghaeredin, niwrowyddoniaeth yn UCL, ffiseg yn Warwig, peirianneg ym Manceinion, a thecstilau yn Nottingham i enwi ond ychydig.

Mae wedi bod yn brofiad eithaf gwahanol i’r myfyrwyr a byddan nhw yn sicr wedi ennill sgiliau datrys problemau ychwanegol, gwybodaeth o TG a digonedd o wydnwch. Mae’r tîm Rhyngwladol wrth eu bodd gyda chyflawniadau’r myfyrwyr ac maen nhw’n edrych ymlaen at glywed popeth am eu straeon llwyddiant yn y dyfodol. Rydym yn eithaf sicr y byddan nhw’n mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon gwych dros y Coleg yn y DU ac yn eu mamwledydd hefyd.

* Tynnwyd lluniau'r myfyrwyr o fewn eu swigen dosbarth.