Llwyddiant ysgoloriaeth i fyfyriwr Rhyngwladol
Mae Jarrett Zhang yn dathlu ar ôl cael ysgoloriaeth £180,000 gan gwmni mwyngloddio Rio Tinto i astudio Daeareg yng Ngholeg Imperial Llundain.
Bydd Jarrett, a gafodd dwy radd A* ac un A yn ei arholiadau Safon Uwch yn ddiweddar, yn derbyn £45,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd, i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw. Cafodd ysgoloriaeth Rio Tinto ei roi i ddau fyfyriwr yn unig yn 2019 ac felly mae hyn yn gyflawniad gwych.
Roedd Jarrett hefyd wedi dathlu llwyddiant chwaraeon eleni pan enillodd bencampwriaethau tennis bwrdd Colegau Cymru 2019.
Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel!
Mae 60% o’n myfyrwyr Safon Uwch rhyngwladol wedi ennill graddau A* ac A yn eu harholiadau yn ddiweddar.
Ers hynny, mae dros 90% o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu derbyn i astudio mewn prifysgolion Russell Group nodedig, gan gynnwys Caergrawnt.
Dyma rai o’r cyrchfannau prifysgol sydd wedi’u cadarnhau a’r myfyrwyr fydd yn mynd iddynt:
Roedd Haolin Wu (o Tsieina) wedi cael pedair gradd A* a bydd bellach yn astudio Economi Tir yng Ngholeg Crist, Caergrawnt.
Hwyl fawr i ddosbarth Rhyngwladol 2019
Yn ddiweddar aeth rhai o’n myfyrwyr rhyngwladol Safon Uwch i ginio graddio ym Mhlas Sgeti cyn gadael.
Roedd y cinio’n dathlu cyfnod y myfyrwyr yn y Coleg ac roedd yr holl westeion wedi mwynhau pryd o fwyd Prydeinig traddodiadol.
Ar hyn o bryd, mae ein myfyrwyr U2 yn dal cynigion gan 20 o’r 24 Prifysgol Russel Group, gan gynnwys Rhydgrawnt.
Medalau Eisteddfod yr Urdd
Eleni, roedd ein myfyrwyr Celf Rhyngwladol wedi ennill nifer o wobrau Eisteddfod yr Urdd ar draws gwahanol gyfryngau.
Yn y rhagbrawf rhanbarthol, enillodd Bella, myfyriwr o Gorea, y wobr gyntaf yn y categorïau Graffeg Gyfrifiadurol a Graffeg mewn Ffotograffiaeth.
Adran ryngwladol yn ennill gwobr addysg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgol Uwchradd Education First (EF).
Rhoddwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod ei rôl wrth helpu nifer o’i fyfyrwyr i gyflawni canlyniadau Safon Uwch ardderchog a symud ymlaen i rai o brifysgolion mwyaf nodedig y byd.
“Mae EF yn frand byd-eang adnabyddus ym myd addysg ac felly mae’n fraint go iawn i’r tîm rhyngwladol a staff addysgu Safon Uwch gael eu cydnabod am yr holl waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y maent yn eu darparu i gefnogi ein myfyrwyr,” dywedodd y Pennaeth Rhyngwladol, Kieran Keogh.
Ymweliad â Chaergrawnt
Roedd ein myfyrwyr Rhyngwladol yn rhan o grŵp o dros 80 o ddysgwyr a fynychodd ymweliad consortiwm HE+ Abertawe â Chaergrawnt eleni.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys dosbarthiadau arbenigol ar gyfer pynciau penodol, ymweliadau â’r coleg a sesiwn rhwyfo ymlaciedig ar Afon Gaergrawnt.
Yn y llun gweler Jasmine a Molly, sy’n dod o Tsieina. Mae’r ddwy yn astudio mathemateg a’r gwyddorau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Cytuno ar bartneriaeth Chwaer-ysgol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi arwyddo cytundeb bartneriaeth ‘Chwaer Ysgol’ gydag Ysgol Uwchradd No.49 Wuhan, Tsieina. Mae’r ddau bartner wedi cytuno i gymryd rhan mewn cyfnewidiau staff a myfyrwyr ac wedi cytuno i rannu arferion da.
Mae Wuhan yn chwaer-ddinas swyddogol i Abertawe. Mae cysylltiadau’r ddwy ddinas yn dyddio yn ôl i’r 1800au pan oedd Griffith John, cenhadwr arloesol o Abertawe, yn byw yn yr ardal. Sefydlodd John un o ysbytai mwyaf Tsieina yn ystod y cyfnod hwn, sef Ysbyty Undeb Wuhan.
Cissy yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer digwyddiad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Fe wnaeth Cissy, sef myfyriwr rhyngwladol ail flwyddyn gamu i ganol y llwyfan unwaith eto eleni yn nathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gymdeithas Tsieineaidd Cymru ac wedi tyfu’n raddol yn ei boblogrwydd ers ei lansiad gwreiddiol.
Swynodd Cissy y gynulleidfa wrth chwarae’r erhu, sef offeryn traddodiadol Tsieineaidd.
Myfyrwyr rhyngwladol yn dathlu’r cynigion prifysgol gorau
Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd yn dal cynigion gan rai o’r prifysgolion gorau yn y DU, gan gynnwys 20 o’r 24 o Brifysgolion Russell Group.
“Mae hyn yn dystiolaeth bellach o’r safon dysgu ac addysgu rhagorol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Rheolwr Rhyngwladol Kieran Keogh.
“Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 90% o’n myfyrwyr Rhyngwladol wedi symud ymlaen i Brifysgolion Russell Group gan gynnwys Rhydgrawnt, ac – yn seiliedig ar y cynigion prifysgol eleni – mae’n ymddangos bod y tuedd hwnnw yn mynd i barhau.”
Pagination
- Previous page
- Page 3
- Tudalen nesaf