Skip to main content

Diwrnod allan yng Nghaerfaddon

Roedd grŵp o fyfyrwyr Rhyngwladol wedi mwynhau gwibdaith gyffrous i un o ddinasoedd mwyaf apelgar Prydain.

Roedden nhw wedi ymweld â’r Baddonau Rhufeinig a threulio amser ym Marchnad Nadolig arobryn Caerfaddon.

Yn ogystal, roedd amser gan y grŵp i bori yng nghanol nwyddau crefftwyr a blasu bwyd stryd danteithiol.

Tagiau

Rhaglen hyfforddi athrawon yn llwyddiant

Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu athrawon o Zhuzhou, Hunan, Tsieina i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi fer.

Roedd ein gwesteion o Tsieina wedi arsylwi ar amrywiaeth o ddosbarthiadau Safon Uwch gwahanol a sesiynau wedi’u haddysgu ac roeddent hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid diwylliannol, gyda rhai o’n myfyrwyr Tsieineaidd presennol yn gwneud gwaith cyfieithu ar y pryd.

Hoffai’r tîm Rhyngwladol ddiolch i bawb a helpodd gyda’r rhaglen ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhagor o athrawon o Tsieina yn y Flwyddyn Newydd.

Tagiau

Hwyl yr ŵyl

Cafodd y myfyrwyr rhyngwladol amser gwych yn mynd i ysbryd yr ŵyl yng Ngŵyl y Gaeaf yn Abertawe.

Dechreuodd y noson gyda sesiwn sgelfrio iâ wedi’i dilyn gan hwyl a sbri yn y ffair.

Roedd yn fendigedig gweld ein myfyrwyr yn ymlacio gyda’i gilydd cyn gwyliau’r Nadolig.

Tagiau

Marciau llawn i’n mathemategwyr Rhyngwladol

Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal rhagbrawf rhyngwladol ar gyfer Uwch Dîm yr Her Fathemateg, cystadleuaeth a gydlynir gan Ymddiriedolaeth Mathemateg y Deyrnas Unedig ac a noddir gan Rolls Royce.

Roedd dros 1,200 o dimau wedi cymryd rhan eleni a daeth y myfyrwyr Rhyngwladol Jonas, Faye, Jasmine a Tony, sydd i gyd yn dod o Tsiena, yn gyntaf yn eu rhagbrawf nhw.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’n myfyrwyr Rhyngwladol ennill y bencampwriaeth ranbarthol. Byddan nhw nawr yn symud ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol yn Llundain ym mis Chwefror.

Tagiau

Llwyddiant Tenis Bwrdd i fyfyriwr rhyngwladol

Llongyfarchiadau i’r myfyriwr Rhyngwladol Jarret-Yuzhe Zhang ar ennill Pencampwriaeth Tenis Bwrdd Colegau Cymru.

Cipiodd Jarrett, sy’n wreiddiol o Singapore'r safle cyntaf ar ôl curo’r cyn-bencampwr a chyd-fyfyriwr CGA – Jacob Young

Bydd y ddau, sy’n ffrindiau mawr ac yn aml yn ymarfer gyda'i gilydd, yn cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol, Mis Ebrill nesaf.

Yn dilyn ei lwyddiant, pwysleisiodd Jarrett ei falchder wrth ennill y gystadleuaeth a’r boddhad wrth iddo gael arddangos baner Cymru yn y broses.

Ni’n falch iawn ohonot, Jarret – da iawn!

Tagiau

Merched yn gwneud yn dda

Mae myfyrwyr Rhyngwladol yr ail flwyddyn wedi rhoddi gwaith celf gwreiddiol cardiau cyfarch i godi arian tuag at Blant Mewn Angen.

Roedd Maggie ac Iris, sy’n astudio celfyddyd gain a thecstiliau a Trista, myfyriwr ffotograffiaeth, wedi darparu’r lluniau gwych.

Codwyd £100 trwy werthu’r cardiau.

Yn ogystal, roedd y Swyddfa Ryngwladol wedi trefnu stondin i werthu nwyddau Pydsi a bisgedi lwcus a chodwyd ychydig dros £200.

Tagiau

Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel

Mae saith myfyriwr Safon Uwch Rhyngwladol wedi gwneud cais i astudio yn naill ai Caergrawnt neu Rydychen ym mis Medi 2019.

Roedd pob un o’r rhain wedi cael o leiaf dair gradd A yn eu harholiadau Safon UG ac maen nhw eisoes wedi cael cynigion gan brifysgolion sy’n enwog ar draws y byd megis Coleg Imperial Llundain, UCL ac Ysgol Economeg Llundain.

Roedd yr holl fyfyrwyr wedi cwblhau eu hasesiadau gallu Rhydgrawnt dros hanner tymor ac nawr maen nhw’n aros i weld a fyddan nhw’n cael cyfweliad.

Tagiau

Coleg wedi arwyddo cytundeb partneriaeth addysgol

Mae’r Rheolwr Rhyngwladol Kieran Keogh wedi arwyddo cytundeb mewn partneriaeth â Britlink, un ois-gwmniau Dimensions Education Group, a’i leolir yn Singapore er mwyn darparu cymhwysterau galwedigaethol ledled Malaysia, Myanmar a Vietnam.

Mewn partneriaeth â Britlink, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cymwysterau lefel 2 a 3 mewn disgybliaethau sy’n gysylltiedig â busnes, o ddechrau 2019.

Tagiau

Cwm gwyrdd yn plesio

Roedd y Myfyrwyr Rhyngwladol wedi dod at ei gilydd i edmygu golygfeydd godidog Cwm Garw yn ystod eu hymweliad hanner tymor â Pharc Gwledig Bryngarw.

Roedden nhw wedi mwynhau troedio llwybrau’r coetir a chael hwyl yn yr ardal chwarae – yn enwedig mynd i lawr y llithren enfawr.

Wedyn, roedd y grŵp wedi treulio amser yng Nghanolfan Siopa McArthur Glen, yn cael rhywbeth i’w fwyta a phrynu eu hoff nwyddau.

Unwaith eto, roedd yr haul yn gwenu ac roedd rhai o’r myfyrwyr wedi dweud na allen nhw gredu pa mor wyrdd yw cefn gwlad Cymru.

Tagiau

Yr haul yn gwenu ar fyfyrwyr Rhyngwladol!

Roedd rhai o fyfyrwyr Rhyngwladol newydd Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau golygfeydd ysblennydd Bae Rhosili dros y Sul.

Gyda’r haul yn disgleirio’n braf, roedd y myfyrwyr wedi cerdded i’r wylfa ger Pen Pyrod cyn mynd i lawr i’r traeth lle roedden nhw wedi chwarae pêl-droed, Frisbee a chis.

Roedd pawb wrth eu bodd a dywedodd un myfyriwr mai Rhosili yw’r lle ‘mwyaf hardd’ mae erioed wedi ymweld ag ef.

Tagiau