Skip to main content

Cwm gwyrdd yn plesio

Roedd y Myfyrwyr Rhyngwladol wedi dod at ei gilydd i edmygu golygfeydd godidog Cwm Garw yn ystod eu hymweliad hanner tymor â Pharc Gwledig Bryngarw.

Roedden nhw wedi mwynhau troedio llwybrau’r coetir a chael hwyl yn yr ardal chwarae – yn enwedig mynd i lawr y llithren enfawr.

Wedyn, roedd y grŵp wedi treulio amser yng Nghanolfan Siopa McArthur Glen, yn cael rhywbeth i’w fwyta a phrynu eu hoff nwyddau.

Unwaith eto, roedd yr haul yn gwenu ac roedd rhai o’r myfyrwyr wedi dweud na allen nhw gredu pa mor wyrdd yw cefn gwlad Cymru.

Tagiau

Yr haul yn gwenu ar fyfyrwyr Rhyngwladol!

Roedd rhai o fyfyrwyr Rhyngwladol newydd Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau golygfeydd ysblennydd Bae Rhosili dros y Sul.

Gyda’r haul yn disgleirio’n braf, roedd y myfyrwyr wedi cerdded i’r wylfa ger Pen Pyrod cyn mynd i lawr i’r traeth lle roedden nhw wedi chwarae pêl-droed, Frisbee a chis.

Roedd pawb wrth eu bodd a dywedodd un myfyriwr mai Rhosili yw’r lle ‘mwyaf hardd’ mae erioed wedi ymweld ag ef.

Tagiau

Myfyrwyr Rhyngwladol newydd yn mwynhau profiad canol y ddinas

Yn ddiweddar roedd grŵp o’n myfyrwyr newydd wedi mwynhau ymarfer ymgyfarwyddo â chanol dinas Abertawe gyda’r tîm Rhyngwladol.

Roedden nhw wedi ymweld â marchnad dan do enwog Abertawe lle roedden nhw wedi blasu cocos, bara lawr a phice ar y maen. Roedd y daith hefyd yn cynnwys Gerddi’r Castell a Marina Abertawe.

Mae bron 100 o fyfyrwyr Rhyngwladol yn astudio yn y Coleg ar hyn o bryd ar draws campysau Gorseinon, Tycoch a Llwyn y Bryn.

Tagiau

Canlyniadau gwych ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Rhyngwladol

Roedd dosbarth U2 eleni wedi ennill canlyniadau Safon Uwch anhygoel gyda chanran drawiadol o 64% yn ennill graddau A* neu A.

Mae dros 90% o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu derbyn gan brifysgolion Russell Group, gan gynnwys Rhydgrawnt.

Roedd gan ein myfyrwyr Safon UG achos i ddathlu hefyd, gyda 10 myfyriwr yn ennill naill ai pedair neu dair gradd A.

Hoffem ddweud da iawn i bob un o’r pedwar myfyriwr a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hastudiaethau i ddod.

Llwyddiant i Maggie yn yr Urdd

Enillodd un o’n myfyrwyr Rhyngwladol y drydedd wobr yn ddiweddar yn Eisteddfod yr Urdd 2018 (categori dewis rhanbarthol). 
 
Roedd Maggie, sy’n dod yn wreiddiol o Tsieina, wedi dylunio a chynhyrchu print leino yn seiliedig ar thema amgylchedd trefol. 

Roedd ei hathrawon celf yn meddwl bod y print yn un o’r dyluniadau mwyaf gwreiddiol o’r grŵp o fyfyrywr celfyddyd gain yn y flwyddyn gyntaf. 

Da iawn Maggie, canlyniad gwych ar gyfer eich blwyddyn gyntaf yng Nghymru!

Tagiau

Ymweliad â Tsieina yn llwyddiant

Cafodd y Pennaeth Mark Jones wahoddiad gan Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (PATB) – y brifysgol ieithoedd tramor orau yn Tsieina – i draddodi araith arbennig yn ei phumed Prif Uwchgynhadledd Bord Gron ar ‘heriau ac atebion ym maes addysg Ryngwladol’.

Roedd Mark hefyd wedi cael yr anrhydedd o gael ei benodi i Fwrdd Cynghori Rhyngwladol PATB.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae PATB wedi sefydlu nifer o ysgolion Rhyngwladol K-12, ac mae rhai ohonynt yn cynnig cymwysterau TGAU Rhyngwladol a Safon Uwch.

Tagiau

Dosbarth 2018

Daeth ein myfyrwyr A2 rhyngwladol i seremoni raddio ym Mhas Sgeti yn ddiweddar i ddathlu eu hamser yn y Coleg. Defnyddiwyd y digwyddiad hefyd fel cyfle i gydnabod y ffaith bod 100% o’n myfyrwyr A2 rhyngwladol wedi derbyn cynigion i astudio mewn prifysgolion Grŵp Russel.

Yn ogystal â staff y Coleg, daeth gwesteiwyr Homestay i’r digwyddiad hefyd y mae myfyrwyr wedi byw gyda nhw yn ystod eu hamser yn Abertawe.  

Hoffai’r Adran Ryngwladol ffarwelio â’n myfyrwyr A2 rhyngwladol a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

Tagiau

Myfyrwyr rhyngwladol yn mynd i Heatherton

Cafodd ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf ddiwrnod i’r brenin yn Heatherton World of Activities yn ystod gwyliau’r Pasg.

O sorbio dŵr i hedfan ar weiren wib a gwibgartio, doedden nhw ddim wedi colli eu brwdfrydedd hyd yn oed yn ystod y glaw!

Roedd y digwyddiad hwyliog hwn wedi rhoi cyfle i’r grŵp ymlacio gyda’i gilydd cyn tymor yr arholiadau hollbwysig ‘na.

Tagiau

Tîm rhyngwladol yn ehangu eu gorwelion

Mae Rheolwr Rhyngwladol y Coleg, Kieran Keogh, wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith lwyddiannus i Hong Kong a thir mawr Tsiena.

Yn Hong Kong, aeth Kieran i ddigwyddiad recriwtio gydag Amber Education, un o asiantaethau recriwtio mwyaf yr ardal. Ar dir mawr Tsiena, llofnododd gytundebau gyda chwe ysgol bartner newydd yn Zhuzhou, Lanzhou, Shenyang a Beijing.

Cyfarfu Kieran hefyd â buddsoddwyr Tsieineaidd ynghylch y potensial i ddatblygu campws Coleg Gŵyr Abertawe yn Tseina.

Tagiau

Perfformiad anhygoel gan Cissy

Cafodd gwrandawyr eu diddanu gan Cissy, un o'n myfyrwyr Rhyngwladol, mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i arddangos diwylliant Tsieina a dathlu Blwyddyn Newydd Tsieina.

Roedd y digwyddiad, a gafodd ei drefnu gan y Gymdeithas Tsieineaid yng Nghymru, wedi denu urddasolion ac ymwelwyr o'r ardal.

Mae Cissy yn chwarae'r erhu, offeryn traddodiadol Tsieina, a gofynnwyd iddi chwarae ar ôl iddi ddenu sylw mewn digwyddiad arall.

Cafodd y perfformiad ei ganmol ac roedd pawb wedi ei fwynhau. 

Tagiau