Skip to main content

Myfyrwyr o Tsieina yn mwynhau profiad y Coleg

Mae ein hadran Ryngwladol wedi croesawu grŵp o fyfyrwyr a staff o Ysgol Ganolog Zhuzhou Rhif 8.

Roedd y myfyrwyr wedi mynychu dosbarthiadau bob bore ac roedden nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol amrywiol bob prynhawn.

Ar ddiwedd yr ymweliad cynhaliwyd digwyddiad ‘cyfnewid diwylliannol’ rhwng myfyrwyr o Tsieina a myfyrwyr lleol a pherfformiad cerddoriaeth/dawns gan rai o’n carfan bresennol o fyfyrwyr Safon Uwch Rhyngwladol.

Tagiau

Taith lwyddiannus arall ar gyfer yr Adran Ryngwladol

Mae Kieran Keogh, Rheolwr Rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe, wedi dychwelyd o daith busnes bythefnos lwyddiannus i Tsieina lle roedd wedi ymweld â chyfanswm o naw dinas wahanol, gan ddechrau yn Hong Kong a gorffen yn Beijing.

Yn ystod y daith, roedd Kieran wedi cwrdd â nifer o gynrychiolwyr colegau, cyfweld â darpar fyfyrwyr, ymweld â phartneriaid addysgol a chynnal trafodaethau â thri buddsoddwr ynghylch campws gyda brand Coleg Gŵyr Abertawe yn Tsieina.

Tagiau

Danteithion Cymreig i fyfyrwyr Rhyngwladol newydd

Roedd adran Ryngwladol Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad ‘ymgyfarwyddo â chanol y ddinas’ ar gyfer ei charfan newydd o fyfyrwyr.

Uchafbwynt y diwrnod oedd blasu cocos, bara lawr a phice ar y maen ym Marchnad Abertawe – diolch yn fawr iddyn nhw am ddarparu’r bwydydd blasus am ddim! 

Mae Campws Gorseinon wedi croesawu cyfanswm o 36 o fyfyrwyr Safon Uwch newydd ym mis Medi o wledydd megis Tsieina, Hong Kong, Taiwan, De Corea, Singapôr a’r Aifft.
 

Tagiau