Skip to main content
 

Gwybodaeth bwysig am gasglu canlyniadau ym mis Awst!

Bydd eich canlyniadau yn barod i’w casglu ar y dyddiadau canlynol:

  • Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 a Bagloriaeth Cymru: Dydd Iau 14 Awst o 9.15am
  • TGAU a Galwedigaethol Lefel 2: Dydd iau 21 Awst o 9.15am.

Bydd eich canlyniadau hefyd ar gael ar-lein ar eich eGDU. Dewch â’ch cerdyn adnabod gyda chi i gasglu eich canlyniadau. Os oes rhywun arall yn casglu eich canlyniadau, bydd angen i chi ddarparu caniatâd ysgrifenedig a bydd angen i’r unigolyn sy’n casglu eich canlyniadau ddod â cherdyn adnabod. Ni fyddwn yn darparu canlyniadau dros y ffôn / e-bost.

Pwysig: Oherwydd y gwaith adnewyddu ar gampws Gorseinon, bydd mannau parcio yn gyfyngedig - defnyddiwch faes parcio Bloc A/Bloc Celfyddydau.

11 cynnig i Brifysgol Rhydychen neu Gaergrawnt yn 2026

Group photo of Oxbridge students

Head and shoulders portrait of Dominic Stead

Coleg Gŵyr Abertawe yn penodi Dominic Stead yn Gyfarwyddwr Ystadau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi Dominic Stead yn Gyfarwyddwr Ystadau newydd, yn dilyn cyfnod llwyddiannus o weithio yn y rôl ar gontract cyfnod penodol.

Grŵp o bobl yn sefyll mewn llinell, rhai yn dal llyfrau clawr meddal

Colegau addysg bellach yn parhau â’r gwaith i fynd i’r afael â cham-drin merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus

Fe wnaeth dynion ifanc a bechgyn o golegau addysg bellach ar draws de-orllewin Cymru ymgynnull yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad rhanbarthol pwerus gyda’r nod o fynd i’r af

Grŵp o 15 o bobl yn sefyll o flaen baneri dros dro

Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer addysg ac arloesedd digidol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymuno â Microsoft a darparwyr addysg partner Coleg Gwent, Coleg Sir Benfro a Phrifysgol Wrecsam i ffurfio Canolf

 

Broadway

Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r ansawdd gorau am bris anhygoel yn ein salonau o safon broffesiynol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau.

 

Canolfan Chwaraeon

Mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon yn cynnwys campfa, neuadd chwaraeon, ystafell troelli/beicio dan do ac ystafell codi pwysau. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, fel pilates, troelli a hyfforddiant dwyster uchel.

 

Vanilla Pod

Mae bwyty’r Vanilla Pod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o’r cyrsiau arlwyo a lletygarwch ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr mewn cegin a bwyty proffesiynol.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud...