Skip to main content

Annog busnesau Cymru i ailystyried strategaethau recriwtio ymysg argyfwng yn y gweithlu

Gan fod Wythnos Prentisiaethau Cymru ar y gweill (7-13 Chwefror), mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i ailystyried strategaethau recriwtio presennol er mwyn rheoli gweithluoedd y dyfodol yn y ffordd orau.

Mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe a Vaughan Gething, y Gweinidog dros yr Economi, yn gofyn i fusnesau Cymru ystyried recriwtio prentisiaid mewn ymgais i lenwi swyddi gwag.

Creu 3,000 o brentisiaid newydd yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru David TC Davies wedi cwrdd â phobl ifanc sydd ar fin elwa ar fenter newydd gwerth £30m i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o raglen Sgiliau a Thalent Bargen Dinas Bae Abertawe, cyfarfu’r Gweinidog Davies â myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Gŵyr Abertawe i glywed sut y bydd o fudd i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot.

Cynllun prentisiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw’r gorau yn y DU

Enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Raglen Brentisiaeth y Flwyddyn yn nigwyddiad blynyddol Gwobrau Tes FE, sy’n cydnabod y sefydliadau addysg bellach gorau sy’n cefnogi dysgwyr ledled y DU. Mae Tes, a elwid gynt yn Times Educational Supplement, yn un o’r cyfryngau blaenllaw ar gyfer y sector addysg.

Tagiau

Gwobrau Rhithwir yn dathlu prentisiaid a chyflogwyr

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2021, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi trefnu rhaglen wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhithwir o ystafelloedd sgwrsio byw a sesiynau gwybodaeth i weminarau a thiwtorialau YouTube rhad ac am ddim.

Un elfen bwysig iawn o ddathliadau’r Coleg yw’r Gwobrau Prentisiaeth Rhithwir, a gynhelir ar draws Twitter a LinkedIn yr wythnos hon, ac sydd â’r nod o dynnu sylw at oreuon y prentisiaid, y cyflogwyr a’r aseswyr gorau.

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2021 - Sesiynau Gwybodaeth

Nod Wythnos Prentisiaethau Cymru yw taflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan gyflogwyr a phrentisiaid ledled y wlad.

Bydd Wythnos Prentisiaethau Cymru yn cael ei chynnal eleni o ddydd Llun 8 Chwefror i ddydd Sul 14 Chwefror.

Mae’r dathliad blynyddol yn gyfle i arddangos sut mae prentisiaethau wedi helpu busnesau ac unigolion o safbwynt cyflogaeth a datblygu sgiliau.

___________

Ymunwch â ni yn Niwrnodau Agored Rhiwthwir Cymru

Oherwydd Covid-19, mae llawer o ddigwyddiadau a oedd wedi’u cynllunio a’u hamselenni, megis diwrnodau agored, bellach wedi’u canslo.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig y mae diwrnodau agored yn gallu bod i chi o ran eich helpu i ddod i benderfyniad ynghylch eich camau nesaf, felly rydym yn gweithio gyda Llywodraeh Cymru i ddod â’n diwrnod agored i chi.

Coleg yn dathlu ail Wobrau Prentisiaethau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig i brentisiaid a chyflogwyr.

Cafodd y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Ross Harries o Scrum V Live BBC Wales, ei gynnal i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ‘y gorau o’r goreuon’.

Ymhlith enillwyr y gwobrau roedd dysgwyr sydd wedi cwblhau prentisiaethau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau o Lefel 2 hyd at Lefel 5. Yn wir, un o enillwyr y noson – Cory Allen – yw’r dysgwr cyntaf i ddechrau prentisiaeth gradd yn y Coleg.

Coleg yn cipio dwy Wobr Prentisiaeth AAC

Enillodd Coleg Gŵyr Abertawe ddwy wobr yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC yn ddiweddar yn Birmingham.

Mae hwn yn gyflawniad anhygoel, oherwydd cafwyd cyfanswm o fwy na 350 o gofrestriadau o golegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn y DU ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a drefnwyd gan Wythnos AB a Chymdeithas Darparwyr Addysg a Dysgu.

Roedd Coleg Gŵyr Abertawe - yr unig un o Gymru yn y rownd derfynol - wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori - ac enillodd y Coleg y ddau deitl.