Skip to main content

Statws Ystyriol o’r Menopos i’r Coleg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws Achrediad Ystyriol o’r Menopos.

Mae hyn i gydnabod gwaith parhaus y Coleg i godi ymwybyddiaeth o symptomau’r perimenopos a’r menopos, a’r gyfres o gymorth y mae wedi’i rhoi ar waith i staff.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys Caffis Menopos rheolaidd, cyfleoedd i staff gwrdd ag arbenigwyr menopos, a seminarau ar sut i reoli symptomau. Yn fwyaf diweddar, cafodd staff a myfyrwyr gyfle i wisgo Menovest TM, sy’n efelychu’r teimlad o byliau poeth.

Tagiau

Diwrnod Lles 2022

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles blynyddol, lle cafodd staff y cyfle i fwynhau ystod eang o sesiynau gwahanol megis gweithdai, sesiynau ffitrwydd a dosbarthiadau ymlacio.

Dyma’r Diwrnod Lles wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019, a mwynhaodd ein staff ddod at ei gilydd i ymgymryd â gweithgareddau tîm. Fe wnaeth dros 400 aelod o staff gymryd rhan yn y digwyddiadau ar draws pob campws.

Togetherall - cymuned ddiogel, anhysbys ar gyfer cymorth iechyd meddwl 24/7

Iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i’w helpu. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig gwasanaeth cymorth ardderchog ar-lein o’r enw Togetherall.

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddiogel ac anhysbys i gysylltu â hi o unrhyw le, ar unrhyw adeg - p'un a oes angen i fyfyrwyr fwrw eu bol, cael sgyrsiau, mynegi eu hunain yn greadigol neu ddysgu sut i reoli eu hiechyd meddwl. Mae’r platfform yn cael ei fonitro gan glinigwyr hyfforddedig 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Cymorth cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr

Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dal i allu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim wrth i ni barhau i fod ar gau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.

Gyda’r ansicrwydd parhaus mewn perthynas â Covid-19, mae’r Coleg yn benderfynol o barhau â’i gymorth i fyfyrwyr trwy gynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen.

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy ymweld â’r canolfannau cymunedol a’r banciau bwyd canlynol gyda’r amserau wedi’u nodi isod.

Rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt eu cerdyn adnabod myfyriwr cyfredol gyda nhw. 

Tagiau