Technoleg Peirianneg EAL NVQ PEO
Rhan-amser
Lefel 2
EAL
Tycoch
34 weeks
Trosolwg
Mae’r holl unedau canlynol yn orfodol:
- Uned 1: Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg
- Uned 2: Gweithio’n Effeithiol ac Effeithlon mewn Peirianneg
- Uned 3: Defnyddio a Chyfleu Gwybodaeth Dechnegol
- Uned 32: Cynhyrchu Lluniadau Peirianneg Drydanol gan Ddefnyddio System CAD
- Uned 33: Gwifro a Phrofi Offer a Chylchedau Trydanol
- Uned 34: Ffurfio a Chydosod Amgaead Ceblau Trydanol a Systemau Cymorth
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond byddai sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG da yn fanteisiol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Asesir y cwrs drwy gasglu portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys cwestiynau gwybodaeth sylfaenol ac arsylwadau gweithgareddau ymarferol.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cwrs yn rhoi cymhwyster sylfaen i chi yn ogystal â phrofiad ymarferol cyn symud ymlaen i gymhwyster uwch yn y diwydiant trydanol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen Offer Gwarchod Personol, h.y. esgidiau ac oferôls, a chyfrifiannell wyddonol a llyfrau cwrs perthnasol.
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.