Skip to main content

Myfyrwyr yn cynhyrchu arddangosfa ffasiwn rithwir

Roedd arddangosfa Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni yn wahanol iawn i’r arfer. Roedd y cyfyngiadau ar symud yn golygu na allai myfyrwyr gynnal sioe gorfforol, ac felly fe wnaethant arddangos eu gwaith trwy dudalen Instagram bwrpasol.

Roedd pedwar myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni; Sheeza Ayub, Amy Convery, Susan McCormok a Bitney Pyle. Achredir y cwrs gan Brifysgol Swydd Gaerloyw.

Myfyrwyr celf yn anelu’n uwch am leoedd Prifysgol

Mae myfyrwyr ar Gampws Llwyn y Bryn y Coleg yn anelu’n uwch am leoedd prifysgol, gyda rhai hyd yn oed yn dilyn yn ôl-traed Stella McCartney.

Ar hyn o bryd maen nhw i gyd yn astudio Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, tra bod cyfleoedd yn dod i mewn o golegau celf arbenigol a’r prifysgolion gorau ar draws y DU.

Mae pedwar dysgwr o’r grŵp o 32 wedi sicrhau lleoedd amodol yn UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain) ac yn Central St Martins, sydd yn un o’r colegau o dan ambarél UAL.

Myfyrwyr yn annog pobl i ailystyried ‘ffasiwn cyflym’

Mae myfyrwyr o Gampws Llwyn y Bryn Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd ffenestr siop elusen leol drosodd i helpu i godi ymwybyddiaeth o ffasiwn moesegol.

Mae’r myfyrwyr Gradd Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau, ochr yn ochr â’u darlithydd Elinor Franklin, yn gweithio mewn partneriaeth â siop y Samariaid yn Uplands i steilio ac addasu detholiad o ddillad ail-law.

Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith

Mae artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gyda chyfres o arddangosfeydd ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd y digwyddiad Safon Uwch Celf a Dylunio  yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe. Roedd yn dangos gwaith myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys dylunio tecstilau, cyfathrebu graffig, celfyddyd gain a ffotograffiaeth, sydd i gyd yn cael eu haddysgu ar gampws Gorseinon.

Canolfan ffasiwn a thecstilau newydd i’r Coleg

Bydd Canolfan Ffasiwn a Thecstilau newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hogi eu sgiliau ar offer o safon diwydiant a fydd yn eu paratoi yn dda wrth wneud cais am swyddi yn y proffesiwn.

Diolch i hwb ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyfleuster newydd ar gampws Llwyn y Bryn (yn Uplands) yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau cysylltiedig â chelf a dylunio.