Skip to main content

Diweddariad gan y Pennaeth - 13 Ionawr 2021

Siomedig oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Gwener yn nodi y bydd colegau ac ysgolion yn parhau â dulliau dysgu ar-lein am dair wythnos arall o leiaf (nes Ionawr 29, ac am gyfnod hirach o bosib os na fydd nifer yr achosion positif yn gostwng). Ond, heb os, dyma yw’r penderfyniad cywir er mwyn inni allu helpu i leihau achosion ledled ein cymunedau.

Dyma yr oeddem yn ei ddisgwyl, ac rydym fel Coleg wedi bod yn paratoi ar gyfer sefyllfa o’r fath trwy gydol y tymor cyntaf.

Mae’r camau rydym wedi’u cymryd er mwyn paratoi fel a ganlyn:

Diweddariad pwysig - dysgu ar-lein tan 29 Ionawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno yn ddiweddar y bydd pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol yn parhau â dysgu o bell tan 29 Ionawr o leiaf, pan fydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer gweddill y tymor a, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael, byddwn yn diweddaru ein gwefan a’n sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn rhoi’r diweddaraf am asesiadau ac arholiadau wrth i’r darlun ddod yn gliriach.

Tagiau

Diweddariad pwysig ynghylch: wythnos yn dechrau 4 Ionawr 2021

 

I’r holl rieni a myfyrwyr: Efallai eich bod yn gwybod, ar brynhawn dydd Iau 10 Rhagfyr, y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai colegau ac ysgolion uwchradd yn symud i ddysgu ar-lein ar gyfer yr wythnos nesaf - hynny yw, yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr.

Wrth gwrs ni fydd hyn yn gwneud fawr o wahaniaeth yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gan ein bod eisoes wedi cyhoeddi y bydd y nifer fach o gyrsiau a sesiynau tiwtorial a drefnir ar gyfer yr wythnos nesaf yn cael eu haddysgu ar-lein.

Tagiau

Diweddariad i gyngor ar orchuddion wyneb yn y Coleg

Yn dilyn newid diweddar i ganllawiau Llywodraeth Cymru, o hyn ymlaen bydd yn orfodol i’r holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb y tu allan yn ogystal â’r tu mewn pan fyddant ar diroedd y campysau. 

Os ydych yn gwisgo amddiffynnydd wyneb, cofiwch fod rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb hefyd. 

Yr unig adegau pan na fydd rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yw:  

Tagiau

Neges bwysig gan y Pennaeth, Mark Jones

Wrth i’r cyfnod clo byr ddod i ben, dyma wybodaeth bwysig ar gyfer yr amser pan fyddwch yn dychwelyd i’r Coleg yr wythnos nesaf.

O ddydd Llun 9 Tachwedd

Byddwn ni nawr yn ail-ddechrau ein dull addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer ein holl fyfyrwyr amser llawn.

Os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser neu yn brentis, bydd eich cwrs yn ail-ddechrau fel yr oedd cyn y cyfnod clo byr.

Cyfnod clo atal y coronafeirws, beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe am gyfnod atal y coronafeirws ledled y wlad, bydd y Coleg yn cau ar gyfer hanner tymor i bawb ar wahân i staff hanfodol am 6pm ar ddydd Gwener 23 Hydref.

O ddydd Llun 2 Tachwedd i ddydd Gwener 6 Tachwedd, bydd pob campws yn aros ar gau ond bydd yr holl addysgu’n cael ei gyflwyno ar-lein.

Tagiau

Ein hymateb parhaus i Covid-19: Y Diweddaraf gan y Pennaeth Mark Jones (22 Medi)

Mae’r Pennaeth Mark Jones yn myfyrio ar ddechrau tymor yr hydref, gan ganmol myfyrwyr a staff am eu cydweithrediad, ac mae’n egluro sut mae’r Coleg yn parhau i sicrhau bod iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Wrth i ni ddechrau pedweredd wythnos y tymor, mae’n ymddangos yn amser da i fyfyrio ar sut mae pethau wedi mynd hyd yn hyn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr i’n holl fyfyrwyr a staff am eu cydweithrediad wrth i ni lywio ein ffordd trwy flwyddyn academaidd sy’n wahanol iawn i unrhyw flwyddyn rydym wedi’i adnabod o’r blaen. Mae aros gy

Laimis Lisauskas, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn sôn am ei ddyddiau cyntaf yn ôl yn y Coleg

Wrth i ysgolion a cholegau ailagor yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn i’n meddwl y gallai fod gan ddarllenwyr ddiddordeb mewn cael persbectif myfyriwr o sut aeth y diwrnodau cyntaf yn ôl.

Mae fy rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi caniatáu imi gyfathrebu ag ystod eang o fyfyrwyr dros y dyddiau diwethaf, ac felly mae’r sylwadau a wnaf yn gynrychioliadol o’r adborth a gefais hyd a lled y Coleg.

Tagiau