Skip to main content

Diweddariad gan y Pennaeth - 13 Ionawr 2021

Siomedig oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Gwener yn nodi y bydd colegau ac ysgolion yn parhau â dulliau dysgu ar-lein am dair wythnos arall o leiaf (nes Ionawr 29, ac am gyfnod hirach o bosib os na fydd nifer yr achosion positif yn gostwng). Ond, heb os, dyma yw’r penderfyniad cywir er mwyn inni allu helpu i leihau achosion ledled ein cymunedau.

Dyma yr oeddem yn ei ddisgwyl, ac rydym fel Coleg wedi bod yn paratoi ar gyfer sefyllfa o’r fath trwy gydol y tymor cyntaf.

Mae’r camau rydym wedi’u cymryd er mwyn paratoi fel a ganlyn:

Darpariaeth wyneb-yn-wyneb

Yn gyntaf, rydym wedi blaenoriaethu darpariaeth wyneb-yn-wyneb i’n myfyrwyr amser llawn trwy gydol y tymor cyntaf ac, wrth wneud hynny, rydym wedi sicrhau bod pob dosbarth yn cael ei redeg fesul swigod unigol - gyda dosbarthiadau Safon Uwch yn cael eu haddysgu ar ddiwrnodau gwahanol. O ganlyniad, mae llai na 10% o’n myfyrwyr amser llawn wedi gorfod hunanynysu, ac nid oes unrhyw un wedi gorfod hunanynysu fwy nag unwaith.

Blaenoriaethu sesiynau ymarferol

Yn ail, gofynnwyd i ddarlithwyr flaenoriaethu sesiynau ymarferol mewn labordai, gweithdai, salonau, ceginau ac unrhyw leoliadau ymarferol eraill ac, oherwydd hyn, mae bellach angen i fyfyrwyr sy’n astudio rhai o’r cyrsiau hyn gyflawni gwaith theori, sydd, wrth gwrs, yn siwtio modiwlau addysgu ar-lein i’r dim.

Buddsoddi mewn offer digidol

Yn drydydd, a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu buddsoddi’n sylweddol mewn offer TG. Yn ystod y tymor diwethaf yn unig, mae 750 o ddyfeisiau eisoes wedi’u benthyca i fyfyrwyr, ac rydym ar hyn o bryd yn aros i dderbyn 400 o ddyfeisiau ychwanegol, fel y gallwn eu dosbarthu i ragor o fyfyrwyr.

Technoleg i addysgu

Yn bedwerydd, bu buddsoddiad sylweddol yn natblygiad sgiliau ein saff er mwyn iddynt allu addysgu’n ddigidol. Ymgymerwyd â gweithgareddau peilot ymhob maes dysgu ac mi oedd wythnos HMS lawn i’r staff cyn y Nadolig.  Mae gan bob maes dysgu bellach fentoriaid digidol unigol - staff â sgiliau TG cadarn sydd wedi neilltuo amser i helpu eu cydweithwyr.

Y camau nesaf…

Felly, gyda hyn oll bellach ar waith, rydym yn hyderus y bydd symud i addysgu ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf yn broses llyfn a di-dor.

Bydd myfyrwyr yn dilyn eu hamserlenni a fydd yn cynnwys tiwtorialau, ac rydym wedi penderfynnu canolbwyntio mwy ar les myfyrwyr a datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.

Rydym hefyd wedi penderfynu recriwtio hyfforddwyr bugeiliol ychwanegol i gefnogi dysgwyr sy’n profi unrhyw heriau ac unigolion sydd wedi nodi eu bod am dderbyn cymorth academaidd ychwanegol. Wrth i’r sefyllfa ynghylch asesiadau glirio rhyw ychydig, byddwn yn ceisio cynnwys unrhyw ofynion ym mhob un o’r rhaglenni mor gyflym a llyfn ag sy’n bosib.

Byddwn hefyd yn ceisio cynnal cysylltiad agos â’n myfyrwyr sy’n agored i niwed - trwy ein swyddogion cymorth myfyrwyr - a chyn gynted ag sy’n bosib, byddwn yn canolbwyntio ar ddod â’n myfyrwyr galwedigaethol yn ôl i’r Coleg i gwblhau unrhyw waith ac asesiadau ymarferol. 

Rwyf yn llwyr ddeall ei bod hi’n gyfnod heriol i bawb, ond gallaf eich sicrhau, fel Coleg, rydym yn hyderus ein bod yn y sefyllfa orau un i’ch helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau i adlewyrchu’ch holl waith caled a’ch gwydnwch.

Mark Jones, Pennaeth