Skip to main content

Laimis Lisauskas, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn sôn am ei ddyddiau cyntaf yn ôl yn y Coleg

Wrth i ysgolion a cholegau ailagor yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn i’n meddwl y gallai fod gan ddarllenwyr ddiddordeb mewn cael persbectif myfyriwr o sut aeth y diwrnodau cyntaf yn ôl.

Mae fy rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi caniatáu imi gyfathrebu ag ystod eang o fyfyrwyr dros y dyddiau diwethaf, ac felly mae’r sylwadau a wnaf yn gynrychioliadol o’r adborth a gefais hyd a lled y Coleg.

Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod myfyrwyr (yn ogystal â rhieni a gwarcheidwaid) yn disgwyl i bob sefydliad gymryd yr heriau cyfredol hyn o ddifrif. Rydym ni am deimlo’n ddiogel ac yn awyddus i barhau gyda dysgu wyneb yn wyneb cymaint ag sy’n bosib, er mwyn inni gyflawni ein cymwysterau a’u defnyddio nhw fel man cychwyn cadarn ar gyfer cam nesaf ein taith.

Am y rheswm hwn, nid oeddwn yn meddwl y byddai gwisgo gorchuddion wyneb yn broblem i fwyafrif y myfyrwyr. Credaf fod y Coleg wedi delio gyda hyn yn dda o ran ei gwneud hi’n ofynnol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr eu gwisgo, gan gydnabod hefyd y bod angen rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer rhai myfyrwyr.

Roedd cerdded trwy ddrysau’r Coleg ar y diwrnod cyntaf yn brofiad cyffrous i bob un ohonom. Cawsom ein cyfarch gan uwch-staff, derbynion ni orchuddion wyneb a chawsom ein tywys i’n hystafelloedd dosbarth.

Cawsom wybod am yr ystod eang o newidiadau sydd eisoes ar waith er mwyn sicrhau ein diogelwch. Gwnaeth y staff yn siŵr hefyd bod gennym fynediad at ddyfeisiau digidol er mwyn ein galluogi i gyrchu adnoddau ar-lein ac i ddefnyddio dulliau addysgu ar-lein.

Rhaid cyfaddef, mae’r Coleg ar ei newydd wedd yn lle gwahanol iawn, gyda’r holl arwyddion, yr atalfeydd a’r sytsemau un ffordd. Ond mae hyn yn adlewyrchu’r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud ar bob campws i baratoi’r Coleg ar ein cyfer.

Ond, o bosib, yr her fwyaf i ni yw sut y bydd ein dosbarthiadau’n cael eu rheoli er mwyn inni ein cael ein addysgu gyda’n gilydd, i gael egwylau gyda’n gilydd, i gael cinio gyda’n gilydd – a thrwy defnyddio’r dull hwn fe allwn leihau’r risg o ledu’r feirws ymhellach.

Mae agwedd y Coleg tuag at cyrsiau Safon Uwch, lle maent yn dynodi dyddiau ar gyfer addysgu pynciau penodol, yn gefnogol iawn. Mae darpariaeth o’r fath yn ffordd o leihau risg ac wedi cael croeso mawr gan myfyrwyr y coleg – er bod diwrnod cyfan o Fathemateg yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un! Ond, wrth gwrs, mae mynd i’r Coleg yn ddewis personol a does gan y myfyrwyr hynny sydd wedi dewis i astudio Mathemateg neb i’w beio ar wahan i’w hunain!

Yn amlwg, dyw hi ddim yn fel i gyd. Nid ydym yn gallu cymdeithasu gyda’n ffrindiau sydd mewn dosbarthiadau eraill, ond os yw hyn yn lleihau’r risg o orfod hunan-ynysu nawr neu yn y dyfodol, yna mae’n anghyfleustra y gallwn ei reoli. Wedi’r cyfan, fe allwn ni gyfathrebu â nhw’n ddigon hawdd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae Undeb y Myfyrwyr yno hefyd i gysylltu myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg.

Felly, da iawn a diolch i holl staff Coleg Gŵyr Abertawe - mae ‘di bod yn flwyddyn wych hyd yma.