Skip to main content

Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr yn yr Urdd

Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn wythnos diwethaf.  Bu dros 60 o fyfyrwyr i gyd yn cystaldu mewn amrywiol gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref. Coleg Gŵyr Abertawe oedd y coleg addysg bellach fwyaf llwydianus o’r holl golegau yng Nghymru eleni.

ROWND GENEDLAETHOL

Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees

Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Sam Sarsero | 2il Morgan Mason

Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Steffan Thomas | 3ydd Archie Craven

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill cystadleuaeth Rob Brydon

Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghategori dan 18 Cystadleuaeth Portread Cymunedol Creadigol 9to90.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol, a drefnwyd gan Jane Simpson o GSArtists, yn rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd o bob oedran a gallu ac i arddangos eu gwaith yn yr oriel. Ond eleni, cafwyd arddangosfa rithwir a’r thema oedd actor Rob Brydon, gyda Brydon a’i deulu yn beirniadu’r darnau.

Medalau’r cyfryngau i Goleg Gŵyr Abertawe

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau yng nghategori y Cyfryngau a Chreadigol  Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Llongyfarchiadau i Pariyah, band sy’n cynnwys Jasmin Eagles, Dylan Hodges, Alexa Jones-Young, Matthew Thirwell ac Eleri Van Block yn y gystadleuaeth Cerddoriaeth Boblogaidd; Leah Jones yn y gystadleuaeth Marchnata Gweledol a Wiktoria Nebka yn y gystadleuaeth Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn.

Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith

Mae artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gyda chyfres o arddangosfeydd ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd y digwyddiad Safon Uwch Celf a Dylunio  yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe. Roedd yn dangos gwaith myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys dylunio tecstilau, cyfathrebu graffig, celfyddyd gain a ffotograffiaeth, sydd i gyd yn cael eu haddysgu ar gampws Gorseinon.