Skip to main content

Aur a bri i Dîm y DU

Mae Tîm y DU – sy’n cynnwys prentisiaid a myfyrwyr ifanc gorau’r genedl –wedi dychwelyd o Rowndiau Terfynol Euroskills ym Mwdapest yn gyforiog o fedalau a bri.

Yn eu plith mae cyn-fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe.

Myfyrwyr arlwyo yn paratoi i gynrychioli Cymru

Mae dau fyfyriwr Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn barod i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK LIVE.

Bydd Paige Jones, sy’n dilyn cwrs Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod, a Paulina Skoczek, sy'n astudio Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Gwasanaethau Bwyty yn NEC Birmingham ym mis Tachwedd.

Myfyrwyr Peirianneg Electronig yn mynd i'r gystadleuaeth sgiliau

Bydd prentisiaid a dysgwyr gorau'r DU yn cystadlu am wobr aur yn Rowndiau Terfynol Worldskills UK LIVE ar 15-17 Tachwedd.

Yn eu plith bydd dau o fyfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe - Matthew Belton a Jamie Skyrme.

Byddant yn mynd i’r digwyddiad yn NEC Birmingham i wneud set heriol o dasgau cystadleuaeth gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.

Pobl ifanc fedrus yn mynd i ornest Budapest

Cyhoeddwyd y bydd y prentisiaid medrus ifanc gorau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU yn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf pwysig a nodedig yn Ewrop.

Yn eu plith mae Collette Gorvett, myfyriwr Lletygarwch Coleg Gŵyr Abertawe.

Bydd Tîm y DU - sy'n mynd i Rownd Derfynol EuroSkills yn Budapest rhwng 26 a 28 Medi - yn cynnwys 22 o gystadleuwyr elit sy'n fedrus mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o beirianneg i adeiladu, digidol i greadigol.

Tagiau

Georgia yn ysgrifennu adolygiad arobryn

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn gyntaf yn seremoni wobrwyo adolygu llyfrau Gwobr Dylan Thomas.

Mae Georgia Fearn yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg, Llywodraethiant a Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg ar gampws Gorseinon yn ogystal â dilyn rhaglen HE+ ac roedd rhaid iddi ddewis un o'r nofelau ar y rhestr fer i’w hadolygu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas eleni, sef gwobr lenyddol o £30,000 i ysgrifenwyr dan 39 oed.

Llwyddiant i ddwy fyfyrwraig harddwch

Mae dwy fyfyrwarig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill gwobrau yn un o gystadlaethau nodedig Salon Cymru.

Daeth Amanda Rees yn gyntaf yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, wedi’i dilyn yn agos gan Katie Jennings a ddaeth yn drydydd. Ar hyn o bryd, mae’r ddwy fyfyrwraig yn dilyn cwrs Lefel 2 Colur Cosmetig yng Nghanolfan Broadway y Coleg.

Ar gyfer y gystadleuaeth, bu’n rhaid iddynt ddangos gwahanol dechnegau celfyddyd coluro megis aroleuo a cherflunio.

Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Bydd dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol yn y cystadlaethau trydanol a phlymwaith sydd ar fin cael eu cynnal.

Cafodd Jay Popham ei enwi'n enillydd rhagbrawf rhanbarthol diweddar Cystadleuaeth Prentis Trydanol y Flwyddyn y DU SPARKS a gafodd ei gynnal ar gampws Llys Jiwbilî'r Coleg.

Gwobr arian i fyfyrwyr Cyfrifeg

Mae tri myfyriwr AAT Tystysgrif Sylfaen mewn Cyfrifeg o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl ennill gwobr Arian yn nigwyddiad Cyfrifeg Canolradd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yng Ngholeg Sir Gâr.

Gwnaeth Demi-Lee Clement, Stela Kovacheva a Jasmeet Gaba amrywiaeth o dasgau gyda’r nod o asesu eu gallu technegol a’u gallu i weithio mewn tîm mewn adran gyfrifeg ‘ffug’.

Myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn llwyddo mewn cystadleuaeth

Mae dau fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau lle yn nhîm Carfan y DU WorldSkills, a allai olygu y byddan nhw’n cynrychioli eu gwlad yn Rownd Derfynol WorldSkills y Byd yn Rwsia yn 2019.

Cafodd y fyfyrwraig Lefel 3 Collette Gorvett ei ‘Chymeradwyo’n Uchel’ yng nghystadleuaeth y Gwasanaethau Bwyty yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills yn NEC Birmingham.

Llwyddiant nofio

Ar ddiwedd mis Tachwedd, bu tri myfyriwr sy’n astudio ar gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan yn Gala Nofio Ranbarthol yr Urdd. 

Daeth myfyriwr Safon Uwch Niamh Jones yn gyntaf yn y ras pili pala, gan dderbyn ei hamser gorau yn y ras.  Bu myfyriwr L3 Gwasanaethau Cyhoeddus Sam Thomas yn nofio yn y ras cefn a’r dull cymysg unigol, a bu myfyriwr Safon Uwch Dominic Waters yn nofio yn y ras broga. 

Bydd y Niamh nawr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth genedlaethol yng Nghaerdydd ar Ionawr 21ain 2018.  Pob lwc iddi!

Tagiau