Skip to main content

Safon Uwch Astudiaethau Busnes

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Bydd Safon Uwch Astudiaethau Busnes yn rhoi cyfle i ddysgwyr:  

  • Ennill dealltwriaeth gyfannol o fusnes mewn sectorau, marchnadoedd a chyd-destunau amrywiol. 
  • Archwilio swyddogaethau craidd unrhyw fusnes - Marchnata, Adnoddau Dynol, Cyllid a Rheoli Gweithrediadau. 
  • Nodi cyfleoedd sy’n bodoli i entrepreneuriaid o ran ateb anghenion a dymuniadau cymdeithas a darparu nwyddau a gwasanaethau. 
  • Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru 
  • Ymchwilio i faterion busnes cyfredol a deall sut mae busnesau’n addasu i weithredu mewn byd deinamig sy’n newid. 
  • Ennill ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd a’r bygythiadau o weithredu mewn marchnad fyd-eang. 
  • Clywed sgyrsiau ysbrydoledig gan amrywiaeth o siaradwyr allanol a chael y cyfle i fynd ar deithiau allgyrsiol (yn lleol a thramor!) 
  • Datblygu ystod eang o sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU  
  • Gradd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn hanfodol  
  • Nid oes angen profiad o Astudiaethau Busnes arnoch  

Amser llawn yng Ngorseinon. 4.5 awr yr wythnos.  

Assessment: 

Asesir y cwrs drwy bedwar arholiad ysgrifenedig dros ddwy flynedd.  

Blwyddyn 1 (UG):  

  • Uned 1 (15% o’r cymhwyster) 
  • Uned 2 (25% o’r cymhwyster)  

Blwyddyn 2 (Safon Uwch):  

  • Uned 3 (30% o’r cymhwyster) 
  • Uned 4 (30% o’r cymhwyster)  

Mae Astudiaethau Busnes yn briodol ar gyfer nifer diderfyn o feysydd gyrfa! Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain, dilyn prentisiaethau neu barhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol. Yn aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech symud ymlaen i’r rhaglen HND Rheoli Busnes, sy’n arwain at Radd BA Rheoli Busnes.