Recriwtio
Mae’ch dyfodol yn dechrau yma. Ydych chi am wneud gwahaniaeth?
Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a chynorthwyo ein dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn drwy ddarparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau.
Drwy ymuno â ni yn y Coleg, byddwch yn rhan o dîm o staff hynod ymroddedig a thalentog gan ddarparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi rhagorol i bobl ifanc, oedolion a chyflogwyr ar draws De-orllewin Cymru.
Rydym yn ymdrechu i ddarparu pecyn buddion ardderchog ac amgylchedd gwaith cadarnhaol a chroesawgar. Ein nod yw denu’r ystod ehangach o ddoniau i fod yn rhan o Goleg Gŵyr Abertawe. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn gefnogi ein cymuned leol.
Sarah King
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Chwilio ein cyfleoedd gyrfa
Buddion a Lles
Gwyliau
Rydyn ni’n darparu hawl gwyliau hael i ddarlithwyr a staff cymorth busnes, gyda gwobrau am hirhoedledd.
Cydnabyddiaeth Ariannol
Rydyn ni’n darparu cyflogau sy’n gystadleuol yn genedlaethol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i’r cyflog byw dyheadol.
Pensiynau
Rydyn ni’n cofrestru ein holl staff ar gynlluniau pensiwn perthnasol ac yn talu cyfraniadau sylweddol tuag atynt.
Lles
Mae’r Coleg yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac mae’n falch o fod wedi ennill Gwobrau Iechyd Corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.
Yr hyn mae ein staff yn ei ddweud amdanom
90% yn argymell y Coleg fel lle da i weithio
Dywedodd 88% bod y Coleg yn eu cefnogi wrth weithio gartref
Dywedodd 87% fod eu rheolwr yn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithio gartref
Dywedodd 85% eu bod wedi cael cymorth da gan eu rheolwr llinell