Skip to main content
Student support

Cymorth i Fyfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r man cyswllt cyntaf am wybodaeth, cymorth a chyngor ar unrhyw beth o gyngor ar yrfaoedd i gymorth ariannol.

Mae staff arbenigol cymorth myfyrwyr y Coleg ar gael ar Gampysau Llwyn y BrynTycochLlys Jiwbilî a Gorseinon.

Swyddogion Cymorth Myfyrwyr a Tîm Hyfforddwyr Bugeiliol

Mae gan y Coleg dîm o Swyddogion Cymorth Myfyrwyr a Hyfforddwyr Bugeiliol i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol y tu allan i’w hastudiaethau a gallant helpu gydag amrywiaeth o broblemau a all godi yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

  • Myfyrwyr sy’n ymddangos eu bod yn ddigartref 
  • Myfyrwyr sy’n cael trafferthion ariannol 
  • Myfyrwyr pryderus 
  • Presenoldeb gwael 
  • Cael trafferthion gyda’r cwrs neu gymhelliant 
  • Bwlio 
  • Problemau gartref 
  • Anawsterau rheoli dicter 
  • Plentyn sy’n derbyn gofal a gadael gofal 
  • Gofalwr ifanc 
  • Dioddef cam-drin 
  • Symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, AU neu gyflogaeth.

Eu rôl yw cynnig cymorth a chyfarwyddyd un i un, i helpu dysgwyr i oresgyn unrhyw anawsterau ac, os oes angen, cyfeirio at wasanaethau eraill ar gyfer cymorth ychwanegol.  

Gwasanaeth cwnsela

Gall myfyrwyr drafod, mewn lleoliad cyfrinachol, unrhyw beth gan gynnwys problemau academaidd, iselder, pryder, cymorth i reoli dicter, straen neu fwlio.

Cyfarwyddyd gyrfaoedd 

Mae’n staff Hybiau’r Dyfodol a Gyrfa Cymru ar gael i’ch helpu gyda’ch dewisiadau gyrfa, ffug gyfweliadau, datblygu sgiliau gwaith ac ystyried cyflogaeth neu brifysgol. 

Ymgynghorydd iechyd 

Mae tîm yr Ymgynghorydd Iechyd yn nyrsys cofrestredig cymwys sy'n darparu gwasanaeth proffesiynol a rhagweithiol i’r holl fyfyrwyr ac yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd, sy’n gysylltiedig â materion iechyd penodol myfyrwyr, i’r staff perthnasol. Eu nod yw hybu iechyd a lles ar draws y Coleg gan:

  • Asesu holl anghenion meddygol dysgwyr 
  • Cydgysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd eraill pan fydd materion iechyd yn bresennol/dod yn bresennol
  • Arwain gwaith hyrwyddo iechyd ar draws y Coleg a allai gynnwys iechyd rhywiol, ffyrdd o fyw iach, ysmygu, iechyd meddwl, lles, alcohol a chyffuriau, tlodi mislif a mwy
  • Cynnal asesiadau risg ar unrhyw gyflwr meddygol risg uchel   
  • Cyfeirio dysgwyr at asiantaethau priodol am gymorth ychwanegol pan fydd o fudd
  • Cefnogi unrhyw ddysgwyr y mae angen iddynt gymryd meddyginiaeth yn y Coleg.