Skip to main content

Llwyn y Bryn

Llwyn y Bryn yw ein campws y Celfyddydau, lle rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffasiwn a Thecstilau, Ffotograffiaeth a Pherfformiad Cerddoriaeth. Lleolir y campws yn ardal Uplands Abertawe ac fe’i hadeiladwyd yn y 1800au. Mae ganddo naws dymunol wedi’i ategu gan waith celf myfyrwyr sy’n cael ei arddangos drwyddo draw. Mae gan y campws gyfleusterau ardderchog, modern, fel Stiwdios Ffotograffiaeth, Ystafell Dywyll, Ystafelloedd Apple Mac a Chyfrifiaduron Personol, Stiwdios Recordio Cerddoriaeth, Llwyfan Perfformio, Ystafelloedd Ymarfer Cerddoriaeth, Gofod Arddangos, ac wrth gwrs, Llyfrgell fodern.

Mae’r campws o faint braf gydag awyrgylch croesawgar, sy’n rhoi modd i’r myfyrwyr wneud ffrindiau yn gyflym a lle mae amrywiaeth yn cael ei derbyn a’i meithrin. Mae dysgwyr yn cyflawni canlyniadau sy’n arwain y sector, gyda chyfraddau dilyniant rhagorol i brifysgolion blaenllaw’r Celfyddydau.

Mae Llwyn y Bryn hefyd yn gartref i’n darpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), lle mae pobl o bedwar ban byd yn dod i astudio Saesneg ar draws amrywiaeth o lefelau. Mae llawer o’n myfyrwyr ESOL yn symud ymlaen i gyrsiau coleg a phrifysgol neu i gyflogaeth. Mae’r campws hefyd yn cynnig cyrsiau mewn Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol, a addysgir gan ein tîm Addysg Oedolion.

 

Celf a dylunio, ffasiwn a ffotograffiaeth
yn Llwyn y Bryn

Cyfleusterau gwych ac offer o'r radd flaenaf

Arddangos gwaith ar y campws ac yn lleol trwy gydol y flwyddyn

Cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol

Dilyniant i brifysgolion gorau

 

Cerddoriaeth yn Llwyn y Bryn

Cyfleoedd perfformio byw ar y campws ac mewn lleoliadau lleol

Dwy stiwdio recordio llawn offer, ystafelloedd ymarfer niferus a gofod perfformio llwyfan

Cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol – Enillydd Medal Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020 ac Arian yn 2022!

Arddangosfeyd Celf Rithwir

Lefel 3

Lefel A

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Rydym yn cynnig cyrsiau achrededig, Mynediad 1 i Lefel 1. Mae’r cyrsiau hyn yn rhedeg am 35 wythnos, 14 awr yr wythnos. Maen nhw’n gwella sgiliau iaith ac yn ehangu’ch geirfa, gan roi modd i chi symud ymlaen i gyrsiau eraill.

Cer i fyd creadigol Llwyn y Bryn. Cerdda’r coridorau ac archwilia’r holl gyfleusterau modern, sy’n cynnwys stiwdios celf arbenigol, ystafelloedd digidol tywyll, stiwdio recordio a Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.

Manylion Cyswllt

Llwyn y Bryn
77 Heol Walter
Abertawe
SA1 4QA
Ffôn: 01792 284021

Oriau Agor

Yn ystod y tymor
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 9pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm