Skip to main content

Plant sy'n Derbyn Gofal ac sy'n Gadael Gofal

Swyddog Dynodedig: Cathy Thomas
01792 890 772
07946 373 455
cathy.thomas@gowercollegeswansea.ac.uk

Ydych chi’n Blentyn sy’n Derbyn Gofal neu’n Gadael Gofal a hoffai fynd i Goleg Gŵyr Abertawe? Neu ydych chi’n cefnogi Plentyn sy’n Derbyn Gofal neu Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoffai fynd i Goleg Gŵyr Abertawe?

Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ cysylltwch â Tamsyn Oates, Swyddog Dynodedig y Coleg ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Gadael Gofal. Gall Tamsyn eich helpu i ddilyn y tri cham syml hyn i’r Coleg:

Cam 1
Meddyliwch am y cyrsiau yr hoffech eu dilyn:

  • Edrychwch ar ein cyrsiau – mae dewisiadau amser llawn a rhan-amser ar gael
  • Galwch heibio i siarad ag Ymgynghorydd Cyswllt Ysgolion neu aelod o’r tîm Derbyn i gael cyngor a chyfarwyddyd.

Efallai y byddwch am ddod i’r canlynol hefyd:

  • Nosweithiau agored
  • Taith o gwmpas campysau Gorseinon, Llys Jiwbilî, Llwyn y Bryn a Thycoch. Gallwn ni ddangos i chi y cyfleusterau gwych sydd gennym.
  • Digwydiad pontio – mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y cymorth sydd ar gael yn y Coleg a sut y gall helpu pobl ifanc i bontio i’r Coleg. Mae ar gael i unrhyw sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc. 

Os ydych yn cefnogi Plentyn sy’n Derbyn Gofal neu Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoffech drefnu gweithgaredd i’ch pobl ifanc, cysylltwch â ni, a byddwn yn ceisio gwneud rhywbeth i’ch helpu.

Cam 2
Pan fyddwch wedi penderfynu pa gwrs i’w ddilyn, llenwch ffurflen gais yn yr ysgol, ar y wefan neu ffoniwch ein tîm derbyn ar 01792 284000.

Cam 3
Dewch i gyfweliad. Cofiwch ddweud y canlynol wrthym:

  • Pam rydych am astudio’ch cwrs
  • Y graddau a ragwelir i chi, byddwn yn awgrymu lefel cwrs sy’n seiliedig ar y rhain
  • Unrhyw anghenion cymorth neu bryderon sydd gennych fel y gallwn sicrhau’r cymorth iawn cyn cofrestru yn y coleg.

Tra byddwch yn y Coleg, gallwn eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth o ddulliau cymorth ychwanegol, gan gynnwys:

Gallwch gael mynediad at Gymorth Ariannol gan gynnwys:         

  • Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG) sy’n gallu talu costau tocyn bws Coleg, cit ac offer penodol i’r cwrs
  • Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) - £30 yr wythnos i ddilyn cwrs amser llawn yn y Coleg.

Os ydych yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal rhaid i’ch Gweithiwr Cymorth roi llythyr i’r Coleg o’r awdurdod lleol sy’n esbonio eich bod o dan orchymyn gofal llawn. Os ydych yn Blentyn sy’n Gadael Cymorth rhaid i chi roi tystiolaeth o incwm y cartref neu fudd-daliadau.

Gallwch gael mynediad at gymorth lles gan gynnwys:

  • Tiwtor personol a
  • Chymorth un i un gan Swyddog Cymorth Myfyrwyr neu Swyddog Lles ar gyfer unrhyw bryderon yn y coleg e.e. cymorth gyda budd-daliadau, cyllidebu, dyled, pryder, iselder, bwlio, pryderon perthnasau, cam-drin domestig, gwneud ffrindiau, problemau ynglŷn â hyder, gwybodaeth am les ac ati.

Gallwch gael mynediad at gymorth dysgu ychwanegol hefyd gan gynnwys:

  • Cymorth dyslecsia, cymorth yn y dosbarth, cymorth anabledd neu amser ychwanegol mewn arholiadau.
  • Cymorth sgiliau astudio ac
  • Unrhyw gymorth sy’n parhau o’r ysgol.