Skip to main content
Hockey Academy

Academi Hoci

Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn yr Academi Hoci ymhlith y gorau yn y wlad. Gyda’r cyfarpar hyfforddi diweddaraf ar gael i fyfyrwyr, fel cyfleusterau dŵr a pheiriannau hyfforddi heb staff, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i berffeithio’ch sgiliau hoci a chael addysg AB ar yr un pryd.

Mae chwaraewyr elit yn cael wyth awr o hyfforddiant arbenigol bob wythnos a ddarperir i fyfyrwyr ar draws Maes Chwaraeon Elba a meysydd chwarae Heol Ashleigh. Mae nifer o chwaraewyr wedi symud ymlaen i chwarae hoci o’r radd flaenaf, hoci cynrychiadol ac wedi cael lle mewn prifysgolion chwaraeon nodedig.

Mwy na hyfforddiant hoci
Mae’r hyfforddiant a’r datblygiad a ddarperir yn yr Academi yn mynd ymhellach na chwarae’r gamp. Mae’n ymwneud â lles corfforol, sgiliau, gwybodaeth dechnegol a maeth hefyd. Dyma ychydig o’r pethau y byddwch yn dysgu yn yr Academi Hoci:

• Gwella sgiliau hoci
• Ffitrwydd personol – cryfder a chyflyru
• Datblygiad technegol, perfformiad a dadansoddi gemau
• Sgiliau hyfforddi
• Rhaglen hyfforddi bwrpasol
• Cyngor a chymorth un i un/seicoleg chwaraeon
• Arweiniad ar ddiet a maeth

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe mae ein rhaglen hyfforddi’r Academi Hoci wedi meithrin talentau go iawn dros y blynyddoedd, ac mae nifer o chwaraewyr wedi symud ymlaen i chwarae ar lefel ryngwladol i gael llwyddiant ysgubol mewn cystadlaethau.

“Mae bod yn rhan o’r Academi Hoci dros y ddwy flynedd ddiwethaf wir wedi fy helpu i i ddysgu sgiliau sylfaenol yn ogystal â datblygu fy lefel ffitrwydd. Mae’n beth braf i’w wneud rhwng darlithoedd ac yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd cystadleuol.”
Beth Bingham, Uwch Chwaraewr Cymru a Chwaraewr Aspire GB

Ffocws ar hyfforddwyr
Sian Fowler, Cyfarwyddwr yr Academi Hoci
Bywgraffiad: Sian yw Prif Hyfforddwr menywod a dynion ac ar hyn o bryd mae’n astudio tuag at gymhwyster UKCC Lefel 3. Ar un adeg, roedd hi’n Uwch Chwaraewr Rhyngwladol, chwaraewr dan 21/dan 18/dan 16 Prifysgolion Prydain a Cholegau Prydain, ac mae hi bellach yn chwarae yn y tîm cyntaf i Ferched Abertawe ac yn therapydd tylino chwaraeon cymwysedig. Mae Sian hefyd yn hyfforddwr medrus iawn, ac yn Hyfforddwr Canolfan 360 Abertawe, Hyfforddwr Cynorthwyol RSS a Hyfforddwr Cynorthwyol Cymru i’r tîm dan 16.
Profiad: Mae Sian wedi bod gyda’r Academi am wyth mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi arwain timau’r Coleg i fuddugoliaethau aruthrol gan gynnwys ennill Pencampwriaeth Colegau Cymru a chystadleuaeth Ysgolion Cymru dan 18. Mae’r Coleg hefyd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yng nghystadleuaeth Cwpan Prydain dan 19 ac wedi ennill Medal Arian Colegau Prydain.

Sion Cairns, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Prif Hyfforddwr Dynion a Hyfforddwr Cynorthwyol Menywod
Bywgraffiad: Mae Sion wedi bod yn gweithio yn yr Academi Hoci am naw mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi chwarae rôl hanfodol yn datblygu timau llwyddiannus menywod a dynion ac yn datblygu rhaglenni hyfforddi arloesol.
Profiad: Yn ystod y naw mlynedd mae tîm y dynion wedi ennill cystadleuaeth Colegau Cymru naw mlynedd yn olynol ac wedi cynrychioli’n dda ym Mhencampwriaethau Colegau Prydain.

Timau ar daith
Fel rhan o’r Academi Hoci, bydd nifer o gyfleoedd i deithio ledled y DU a thu hwnt. Mae teithiau diweddar wedi mynd â thimau i Ogledd Cymru, Caerloyw, Caerfaddon a Taunton. Mae cynlluniau wrthi’n cael eu terfynu i anfon timau ar deithiau rhyngwladol i Wlad Belg, Iwerddon a hyd yn oed Awstralia yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf! Mae teithio’n gyfle i chi ymarfer eich sgiliau ar y cae, ond mae hefyd yn gyfle i adnabod eich cyd-chwaraewyr, gwneud ffrindiau gydol oes ac ymweld â lleoedd newydd.

Mae’r Coleg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr yr Academi ennill cymwysterau hyfforddi hefyd. Mae hyfforddi yn ffordd wych o ddarganfod yr hyn sydd wir yn gwneud chwaraewr o’r radd flaenaf. Mae’n ymwneud â dawn, amynedd, ymroddiad a sgiliau cyfathrebu. Yn yr Academi Hoci gall myfyrwyr ddewis llwybrau dilyniant i ddatblygu gallu hyfforddi ac ennill Dyfarniad Arweinyddiaeth 4689 a Thystysgrif Hyfforddi DU (UKCC) ar Lefel 1.

I ddysgu rhagor am yr Academi Hoci ffoniwch:
01792 284000
academy@coleggwyrabertawe.ac.uk
sian.fowler@coleggwyrabertawe.ac.uk