Skip to main content

Trydanol

Mae cyrsiau Gosodiadau Trydanol a Pheirianneg (Drydanol) ar gael ar amryw o lefelau, gan roi cyfle i fyfyrwyr gofrestru ar y cwrs sy’n briodol i’r cymwysterau sydd ganddynt eisoes.

Bydd y rhai sy’n dechrau ar Lefel 1 neu 2 yn cael cyfle i symud ymlaen i’r lefel nesaf, a’r dewis posibl o ddilyn prentisiaeth, cwrs addysg uwch neu gael swydd.

Mae’r cyrsiau’n cael eu haddysgu drwy weithdai safonol y diwydiant, gan roi modd i’r myfyrwyr feithrin y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y sector trydanol.

Mae cyrsiau rhan-amser hefyd ar gael o Lefel 2 hyd at Lefel 5.

Newyddion Trydanol

Prentisiaid yn barod ar gyfer rowndiau cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymbaratoi i groesawu rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth nodedig Prentis y Flwyddyn ar 24 Ionawr. Ymhlith y cystadleuwyr mae tri myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n gobeithio sicrhau lle yn Rownd Derfynol y DU yn Cheltenham ym mis Mawrth.
Lansio cyfleuster hyfforddi blaenllaw yn y sector

Lansio cyfleuster hyfforddi blaenllaw yn y sector

Mae cyfleuster newydd wedi cael ei lansio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a fydd yn cynnig amgylchedd hyfforddi blaenllaw yn y sector i drydanwyr sy'n gweithio mewn amodau peryglus.  
Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Bydd dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol yn y cystadlaethau trydanol a phlymwaith sydd ar fin cael eu cynnal.