Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs Safon Uwch hwn yn defnyddio dull fforensig o ddadansoddi iaith lafar, print ac ar-lein.
Byddwch yn datblygu pecyn cymorth dadansoddol o derminoleg ramadegol a damcaniaethau ieithyddol a fydd yn eich galluogi i ddadansoddi unrhyw destun. Mae blwyddyn dau yn cynnwys modiwlau iaith lafar ac iaith dros amser, ynghyd â phrosiect ymchwil annibynnol.
Rydym yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn adlewyrchu ac yn llunio pŵer yn ein byd ac rydym yn archwilio sut mae pobl yn addasu iaith i weddu i wahanol ddibenion a chyd-destunau. Byddwch hefyd yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres ac yn dysgu sut i ddefnyddio’ch pecyn cymorth i ddadansoddi’ch ysgrifennu eich hun.
Diweddarwyd Hydref 2021
Gofynion Mynediad
Bydd angen o leiaf saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU. Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith yn ofynnol, ac mae gradd B mewn Saesneg Llenyddiaeth yn ddymunol hefyd.
Dull Addysgu’r Cwrs
Cewch eich addysgu gan ddau ddarlithydd, am bedair gwers yr wythnos, sef 4.5 awr ar gyfer myfyrwyr UG ac U2. Bydd asesiadau yn cynnwys aseiniadau wedi’u hamseru, cyflwyniadau a ffug arholiad adeg y Nadolig.
Ar Safon UG:
Uned 1 – Archwilio Iaith – arholiad 1.5 awr
Uned 2 – Materion Iaith ac Ysgrifennu Beirniadol Gwreiddiol – arholiad 2 awr
Ar Safon Uwch
Uned 3 – Iaith Dros Amser – arholiad 1.5 awr
Uned 4 – Testunau Llafar ac Ailgastio Creadigol – arholiad 2 awr
Uned 5 – Iaith a Hunaniaeth – Asesiad nad yw’n arholiad
Ymchwiliad 2,500-3,500 gair i’r iaith ar waith.
Cyfleoedd Dilyniant
Astudio yn y brifysgol a gyrfaoedd mewn Saesneg Iaith, ysgrifennu creadigol, newyddiaduraeth, hysbysebu a chyfathrebu, ieithyddiaeth gymhwysol, fforensig a chyfrifiadurol, ieithoedd modern, cyfieithu neu addysgu.