Trosolwg o’r Cwrs
Mae seicoleg yn ein helpu i ddeall meddyliau ac ymddygiad unigolion. Mae’r cwrs yn ddiddorol ac yn heriol, sy’n cwmpasu sawl maes mewn seicoleg.
Mae’r cwrs Safon UG yn astudio’r canlynol:
- Y prif ddulliau mewn seicoleg h.y. seicodynamig, ymddygiadol, gwybyddol, biolegol a chadarnhaol. Astudir agweddau allweddol ar bob dull, fel y prif dybiaethau, therapi a darn clasurol o ymchwil.
- Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio’r dulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr ac i archwilio a rhoi dadleuon cyfoes o fewn seicoleg, megis dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst a moeseg niwrowyddoniaeth.
Bydd y cwrs Safon Uwch yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr astudio:
- Esboniadau a ffyrdd o addasu sgitsoffrenia, straen ac ymddygiad troseddol
- Dadleuon fel rhywiaeth a’r defnydd o anifeiliaid nad ydynt yn ddynol mewn ymchwil seicolegol
- Bydd gwybodaeth am ddulliau ymchwil a dadansoddiad ystadegol yn cael eu datblygu
- Bydd dau ymchwiliad personol hefyd yn cael eu cynnal
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Mae saith gradd TGAU gyda gradd B mewn Saesneg Iaith yn hanfodol i gael eich derbyn ar y cwrs hwn. Mae gradd B mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ddymunol, yn enwedig os hoffech astudio seicoleg ar lefel gradd.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs Safon Uwch Seicoleg yn yr ystafell ddosbarth yn bennaf gyda myfyrwyr Safon UG ac Uwch yn treulio 4.5 awr yr wythnos gyda darlithwyr. Asesir y gwaith trwy arholiadau.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae nifer o’n myfyrwyr yn astudio seicoleg ar lefel gradd. Gall hyn arwain at yrfaoedd mewn meysydd megis seicoleg droseddol, seicoleg addysgol, seicoleg chwaraeon a seicoleg glinigol.
Mae seicoleg yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw alwedigaeth sy’n cynnwys gweithio gyda phobl megis addysgu, nyrsio, gwaith cymdeithasol, adnoddau dynol a’r heddlu.