Skip to main content

BA mewn Addysg, ADY ac Iechyd Meddwl

Amser-llawn, Rhan-amser
Lefel 6
Tycoch
Tair blynedd yn amser llawn, chwe blynedd yn rhan-amser 
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

NEWYDD am 2024

Corff llywodraethu: Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Logo Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Hyd y cwrs: Tair blynedd yn amser llawn / Chwe blynedd yn rhan-amser 

Mae gan Addysg y grym i newid bywydau a rhoi cyfle i newid eich gyrfa a’ch llwybr. Mae’r cwrs newydd ac arloesol hwn yn edrych ar addysg o safbwynt holistig gan roi sylw i addysg gynradd ac uwchradd ond gyda phwyslais cryf ar y sector ôl-orfodol. Mae’n edrych ar sut i gefnogi dysgwyr a’u helpu i ddatblygu’n bersonol ochr yn ochr â datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. 

Mae ffocws clir ar roi eich sgiliau ar waith oherwydd mae yna fodiwl lleoliad bob blwyddyn ac mae asesiadau yn canolbwyntio ar ymarfer.  

Cwrs amlddisgyblaethol yw hwn sy’n cynnwys cymdeithaseg, seicoleg, polisi cymdeithasol, theori addysgol, hanes a theori ddiwylliannol.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn addysgu yn y sector ôl-orfodol, bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn sicrhau cyfweliad i chi ar ein rhaglen TAR.  

Lefel 4   

  • Sut rydyn ni’n dysgu  
  • Cefnogi dysgwyr   
  • Iechyd a lles emosiynol   
  • Datblygu sgiliau astudio ar gyfer AU   
  • ADY ac ymarfer cynhwysol  
  • Ymarfer proffesiynol mewn addysg 1.

Lefel 5   

  • Addysg mewn cyd-destun   
  • Hyfforddi a mentora   
  • Iechyd meddwl   
  • Technoleg mewn addysg   
  • Ymarfer proffesiynol mewn addysg 2  
  • Ymarfer sy’n ystyriol o drawma.

Lefel 6   

  • Deall ymddygiad dysgwr   
  • Cyflwyniad i addysgu   
  • Materion cyfoes: cydraddoldeb a chynhwysiant mewn addysg  
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg   
  • Ymchwil weithredu   
  • Ymarfer proffesiynol mewn addysg 3.

Gwybodaeth allweddol

Amser llawn: Trwy UCAS, cod y cwrs yw F16O  

Rhan-amser: Ffurflen gais

Amser llawn: Addysgir y cwrs hwn dri diwrnod yr wythnos gyda lleoliad bob blwyddyn.  

Rhan-amser: Ar hyn o bryd, addysgir y cwrs hwn un diwrnod yr wythnos a dau hanner diwrnod y flwyddyn ganlynol. 

Asesu: 

Dim arholiad, 100% gwaith cwrs. Asesir y cwrs trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig. Mae asesiadau cysylltiedig â’r lleoliad hefyd.   

Mae’r cwrs yn cael ei raddio mewn canrannau yn unol â safonau Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rolau cymorth myfyrwyr, hyfforddi athrawon, lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol, rolau lles addysg, MA Addysg.

Sut i wneud cais? Llawn amser Bydd angen i chi wneud cais trwy UCAS (cod UCAS yw F160) Cliciwch yma i wneud cais Rhan-amser Mae angen i chi wneud cais trwy ffurflen gais rhan amser Addysg Uwch y coleg isod.

Ffioedd:

£9,000 y flwyddyn amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn (mae hyn yn ddibynnol ar ddilyniant cwrs boddhaol). £2,625 y flwyddyn yn rhan-amser. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk 

Ffioedd ychwanegol:  

  • Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad 
  • Costau llungopïo, nwyddau ysgrifennu ac offer (e.e. cofau USB) 
  • Argraffu a rhwymo 
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio 
  • Costau gwibdeithiau ac ymweliadau achlysurol (opsiynol) 
  • £38 am wiriad DBS ar gyfer yr elfennau lleoliad o’r cwrs. 

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gydnabod dysgu blaenorol.