Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau lluniadu traddodiadol trwy fywluniadu.
Gan ddefnyddio ffigwr dynol fel y man cychwyn arsylwi, cewch eich annog i ddatblygu dealltwriaeth o sut i ddefnyddio tôn, llinell a ffurf. Bydd pob gwers yn dechrau gyda chyfres o ystumiau cynhesu (sy’n amrywio o bum munud i 15 munud), a fydd wedyn yn cael eu datblygu yn ystumiau hirach, mwy strwuthuredig lle gellir defnyddio technegau penodol.
Mae bywluniadu yn fan cychwyn sylfaenol i ddatblygu sgiliau creadigol ymhellach, felly bydd y cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn celf a dylunio. Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdio luniadu yn Llwyn y Bryn sy’n cynnwys îsls a deunyddiau lluniadu.
24/5/22
Gofynion Mynediad
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.
Cyfleoedd Dilyniant
Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir yr holl ddeunyddiau.