Trosolwg o’r Cwrs
Nod y cymhwyster yw rhoi sgiliau a gwybodaeth i’r dysgwr dorri gwallt gan ddefnyddio technegau torri sylfaenol. Ni fydd unrhyw theori na phrofion ysgrifenedig.
Bydd y cwrs yn cynnwys datblygu sgiliau ymarferol ar bennau ymarfer.
Ychwanegwyd Awst 2018
Gofynion Mynediad
City & Guilds VRQ Tystysgrif Lefel 2 neu NVQ Lefel 2 neu brofiad salon/barbro cyfwerth. Mae hefyd yn addas fel cwrs gloywi sylfaenol.
Bydd cymwysterau eraill yn cael eu hystyried fel gofyniad mynediad i’r rhai a hoffai gwblhau’r cymhwyster fel cwrs gloywi a chael cymhwyster cyfredol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y sgiliau a ddatblygir gan y dysgwr yn cynnwys:
- Y technegau torri diweddaraf
- Un hyd
- Graddoliad hir
- Toriad byr un hyd
- Haen unffurf
- Graddoliad byr
Cyfleoedd Dilyniant
Dilyniant i gyrsiau cysylltiedig eraill (amser llawn a rhan-amser) mewn trin gwallt, harddwch a therapïau cyfannol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Costau cit – bydd angen dau ben ymarfer ac offer torri arnoch.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo du neu brynu tiwnig coleg os ydynt am wneud hynny. Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n fodlon cofrestru ddod i sesiwn arweiniad yng Nghanolfan Broadway - cysylltwch â ni i gael y dyddiadau sydd ar gael.