Cyflwyniad i Weldio Metel â Nwy Anadweithiol (MIG/MAG)

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r uned yn bwriadu rhoi cyflwyniad eang i ddysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weldio metel â nwy anadweithiol (MIG/MAG) yn y safleoedd gwastad a llorweddol/fertigol. Bydd dysgwyr yn cynhyrchu weldiau ac asesu yn weledol a ydynt yn addas at y diben yn erbyn gofynion y weithdrefn weldio (WPS) a ddarperir yn asesiad mewnol yr uned. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu’r wybodaeth sylfaenol sy’n berthnasol i weldio metel â nwy anadweithiol.

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gofynion Mynediad

Byddai rhywfaint o brofiad peirianneg/weldio yn fanteisiol ond nid yw’n orfodol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd tystiolaeth o gyflawniad dysgwyr yn cael eu rhoi yn eu portffolio.
Bydd y prif ddarnau o dystiolaeth ar gyfer eu portffolio’n cynnwys:
• asesiad gwybodaeth
• asesiad ymarferol

Cyfleoedd Dilyniant

Mae prinder peirianwyr yn y sector ac felly gall y cwrs hwn arwain at gyflwyniad i yrfa yn y sector weldio.

Bydd yn bosibl dilyn cymhwyster Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i fyfyrwyr ddarparu eu hesgidiau blaen dur eu hunain ac oferôls gwrth-dân.

Lleoliad(au):
Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Mon 17 Apr 2023 | Course Code: N1U293 ETA3 | Cost: £125

Level 1   Monday   6 - 9pm   10 weeks   Tycoch  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket