Lefel 1 Cyflwyniad i Wneud Clustogau

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ni fu tecstilau cartref erioed mor boblogaidd ag y maen nhw ar hyn o bryd. Mae clustogau ar gyfer y cartref a’r ardd mor gyfoes. Mae gwneud eich clustogau eich hun yn caniatáu i chi ddylunio eitemau sy’n cyfuno’n ddi-dor â’ch decor presennol, ac mae defnyddio ffabrigau o hen eitemau nad ydych yn eu defnyddio mwyach, ond nad ydych am gael gwared arnynt, yn golygu y gall y ffabrigau sentimental hyn gael bywyd newydd yn eich cartref. 

Bydd y cwrs hwn, sy’n ymestyn dros 10 sesiwn am dair awr yr wythnos, yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am wneud clustogau ac yn eich helpu i wneud clustog i’ch manylebau eich hun. Mae’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn cynnwys creu’r templed neu’r patrwm, gosod sip, creu tyllau botymau ar gyfer ffasninau a’r sgiliau gwnïo i gydosod y paneli i greu eich clustog ddelfrydol. 

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i glytwaith, appliqué, cwiltio, brodwaith a thechnegau addurniadol eraill i’ch helpu i ddylunio a chreu clustogau sydd mor unigol â chi! 

Ni fydd yn waith caled i gyd, gan y byddwch yn cwrdd â llawer o bobl eraill sydd â’r un meddylfryd â chi ac sydd am ddysgu’r un sgiliau. Bydd llawer o seibiau te a choffi fel y gallwch ddod i adnabod eich cyd-ddisgyblion a gwneud ffrindiau newydd, mewn amgylchedd hamddenol a chreadigol.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid oes angen profiad.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth. 

Bydd yr holl eitemau enghreifftiol (sip, tyllau botymau, llygadennau, a stydiau) yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig. 

Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos. 

Cyfleoedd Dilyniant

  • Parhad Cyrsiau Agored 
  • Celf a Dylunio Lefel 2 
  • Celf a Dylunio Lefel 3 
  • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir yr holl offer.

 

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Tue 9 Apr 2024 | Course Code: VA238 ELB2 | Cost: £65

Level 1   Tues   5.30 - 8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket