Ffotograffiaeth

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cyrsiau canlynol yn gyfle i ddatblygu sgiliau golygu lluniau a ffotograffiaeth digidol gan ddefnyddio’r ystafelloedd cyfrifiadurol, a’r offer stiwdio a goleuo ar Gampws Llwyn y Bryn.

Cewch eich annog i ystyried y pwnc yr hoffech chi dynnu llun ohono a’r delweddau dilynol yr hoffech eu creu, a byddwch chi’n golygu a thrin y delweddau hynny wedyn. Byddwch chi hefyd yn ystyried ffyrdd o rannu’r delweddau hynny boed hynny trwy brintio neu’r cyfryngau digidol. Addysgir y cwrs hwn yn un o’r ddwy stiwdio ffotograffiaeth ar Gampws Llwyn y Bryn a chewch fynediad i ystafell Adobe Mac i olygu’ch delweddau.

Bydd Tymor 1 yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth ddigidol i ddechreuwyr

Bydd Tymor 2 yn canolbwyntio ar olygu delweddau digidol gan ddefnyddio Adobe Photoshop

Bydd Tymor 3 yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth ddigidol i ddechreuwyr a dysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o ffotograffiaeth

23/6/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.

Cyfleoedd Dilyniant

Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Detailed course information

Where and when can I study?

Start Date: Tue 9 Jan 2024 | Course Code: VA213 ELB2 | Cost: £65

Level 1   Tue   5.30-8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket

Start Date: Tue 9 Apr 2024 | Course Code: VA213 ELB3 | Cost: £65

Level 1   Tue   5.30-8.30pm   10 weeks   Llwyn y Bryn  

Enrol on this course Add to basketAdd to Basket ? BasketShow basket